Perfformwyr 'methu aros' am ŵyl y Dyn Gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae cynulleidfaoedd a pherfformwyr yng Nghymru sydd wedi ysu i ddychwelyd i wyliau mawr ar ben eu digon wrth i ŵyl y Dyn Gwyrdd ddigwydd y penwythnos yma.
Cafodd yr ŵyl ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei chanslo yr haf diwethaf o ganlyniad i gyfyngiadau coronafeirws.
Ond gyda'r rheolau nawr wedi'u llacio yng Nghymru, mae'r trefnwyr yn paratoi i groesawu miloedd o bobl yn ôl i'r safle ym Mhowys i weld perfformwyr fel Caribou, Fontaines D.C. a Mogwai.
Dyma'r ŵyl fawr gyntaf i ddigwydd heb amodau Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Dechreuodd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn 2003 fel gŵyl annibynnol yn hybu artistiaid ym meysydd cerddoriaeth, comedi a llenyddiaeth.
Mae bellach wedi tyfu i fod yn un o wyliau mwyaf Cymru gyda 25,000 o bobl a mwy na 150 o berfformwyr yn mynychu pob blwyddyn.
Eleni, roedd pryderon byddai'r ŵyl yn cael ei chanslo am yr eildro wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau yng Nghymru.
Ond gyda'r rhan fwyaf o reolau nawr wedi'i llacio, mae gan perfformwyr y cyfle i chwarae o flaen torfeydd llawn yr ŵyl unwaith eto.
'Greenman yw'r rheswm dechreuais fy mand'
Un o'r perfformwyr yma yw Melin Melyn, sydd wedi treulio mwyafrif o'u tair blynedd fel band wedi'u rhwystro gan y cyfnodau clo.
Dywedodd y canwr Gruff Glyn bod eu set ddydd Sadwrn yn hynod o bwysig iddyn nhw.
"Ni jyst yn ysu i gael chwarae yn fyw eto," meddai.
"Y Dyn Gwyrdd fydd y tro cyntaf i ni chwarae efo'n gilydd yn fyw yn iawn ers Mawrth 2020."
Nid cyfle i chwarae'n fyw eto yn unig yw hwn i Melin Melyn, ond hefyd carreg filltir bwysig i'r band.
"I fod yn hollol onest, Dyn Gwyrdd oedd y rheswm nes i ddechrau'r band," dywedodd Gruff.
"Dwi 'di bod i'r ŵyl cwpwl o weithiau... dwi jyst yn teimlo mor gartrefol 'ma ac o'n i'n cofio meddwl bod rhaid i fi gyfrannu'r i'r ŵyl 'ma rhywsut.
"A dyna sut 'nath y band ddechrau... mae'n fraint aruthrol, ni'n andros o gyffrous a jyst methu aros rili."
'Rili edrych 'mlaen'
Mae'n gyfle hefyd i berfformwyr profiadol chwarae'r ŵyl unwaith eto.
Mae Esyllt Sears yn gomedïwraig o Aberystwyth ac wedi dweud bod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn heriol.
"Pan dwyt ti methu perfformio, mae'n effeithio ar y ffordd ti'n gallu datblygu dy ddeunydd, dy set, dy lais," meddai.
"Felly mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn o ran methu gallu 'neud hynny, achos dim ond hyn a hyn o berfformiadau yn y tŷ mae'r ci yn fodlon dioddef."
Mae Esyllt eisoes wedi perfformio yn y Dyn Gwyrdd, ond dywedodd fod y cyfle i ddychwelyd yn un arbennig.
"Dwi mor gyffrous! Pan ges i'r alwad yn gofyn a o'n i eisiau 'neud e, nes i ddim gofyn am unrhyw fanylion, nes i ddim gofyn pwy arall sydd ar y bill, nes i jyst dweud ie plîs," dywedodd.
"O'n i heb fod nes i fi berfformio yno cwpwl o flynyddoedd yn ôl, a nes i jyst cwympo mewn cariad gyda'r ŵyl felly dwi methu aros."
'Fi 'di cyffroi'
Nid yn unig perfformwyr sy'n gyffrous am y penwythnos i ddod.
Mae Elena Clarke yn mynychu gwyliau yn aml, ac yn edrych ymlaen mynd i'r Dyn Gwyrdd ar ôl ei fethu yr haf diwethaf.
"Ma'n cyfle i droi off, i feddwl am bethau gwahanol, i fynd rhywle lle mae pawb mwy neu lai yn hapus, mae pawb yn joia eu hunain," meddai.
"Fi 'di cyffroi, fi rili wedi cyffroi," ychwanegodd.
Mae Elena, o Gaerdydd, hefyd yn meddwl bod yr ŵyl yn cael effaith bositif ar Gymru.
"Mae mor dda i gael rhywbeth fel Dyn Gwyrdd yng Nghymru, a dwi hefyd y caru bod nhw wastad yn cael perfformwyr sy'n siarad Cymraeg a hybu'r iaith," dywedodd.
"Ma' mor bwysig i ddiwylliant Cymru a Chymru ei hunain."
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn digwydd rhwng 19-22 Awst ym Mharc Glanusk
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018