Wrecsam: Cyhuddo dyn o ymosodiad difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ar ddyn 18 oed yn Wrecsam dros y penwythnos.
Mae Christopher Keenan, 19 oed o Fryn Offa, Wrecsam, wedi cael ei gyhuddo o anafu yn fwriadol, bod ag arf yn ei feddiant ac o ddwyn ffôn symudol.
Roedd yna nifer fawr o swyddogion heddlu yn yr ardal adeg y digwyddiad ddydd Sul, 15 Awst, gan gynnwys swyddogion arfog, ynghyd â chŵn heddlu a hofrennydd.
Bydd Keenan yn ymddangos gerbron ynadon Llandudno yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Mae'r heddlu wedi apelio ar bobl i beidio dyfalu am fanylion y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan fod yr ymchwiliad i'r mater yn parhau.
Maen nhw hefyd wedi gofyn i'r cyhoedd am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, gan ofyn i bobl ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod Z119739.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2021