Cynnig brechlyn i bobl 16 a 17 oed Cymru cyn y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plentyn yn cael ei frechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwledydd fel Ffrainc a'r Unol Daleithiau eisoes yn brechu plant dros 12 oed

Bydd pob person 16 a 17 oed yng Nghymru yn derbyn eu cynnig o frechlyn coronafeirws erbyn diwedd yr wythnos hon, meddai'r gweinidog iechyd.

Daw hyn yn dilyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar frechu pobl dros 16 oed.

Mae tua 67,142 o bobl yn y grŵp oedran hwnnw yng Nghymru.

Mae clinigau lle nad oes angen apwyntiad ar agor ledled Cymru fel y gall pobl dderbyn dos.

Mae byrddau iechyd wedi bod yn cynnal clinigau symudol, yn siarad â chyflogwyr mawr ac yn sefydlu cludiant i ganolfannau brechu, yn ogystal â gweithio gyda phobl agored i niwed ar sail un i un.

'Nid yw'n rhy hwyr'

Anogodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, unrhyw un sydd heb dderbyn cynnig o bigiad i gysylltu gyda'u bwrdd iechyd yn lleol.

"Mae ein rhaglen frechu yn arwain y byd, ond rydyn ni'n gwybod bod yna rai pobl sydd heb dderbyn y cynnig o frechlyn," meddai Ms Morgan.

"Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl ifanc, gan gynnwys y rhai dros 16 oed sydd bellach yn gymwys i gael y brechlyn, yn manteisio ar y cynnig fel eu bod mewn risg is o effeithiau coronafeirws nawr eu bod yn gallu cymdeithasu mwy.

"Nid yw'n rhy hwyr i gael eich brechlyn."

Yn Lloegr, mae disgwyl i bobl 16 a 17 oed gael cynnig dos cyntaf erbyn 23 Awst.

Pynciau cysylltiedig