Covid: Galw ar bobl i fod yn 'ofalus' mewn clybiau nos
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor yn galw ar bobl i fod yn "ofalus" mewn clybiau nos dros y penwythnos yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ardal dros y dyddiau diwethaf.
Er bod disgwyl i nifer yr achosion positif gynyddu rhywfaint wrth i Gymru symud i lefel rhybudd sero, roedd "cyfran sylweddol" o'r 187 achos a gofnodwyd yn Sir Benfro yr wythnos hon yn ymwneud â chlybiau nos, yn ôl y cyngor sir.
Mae cyfradd achosion Cymru gyfan wedi codi fymryn dros y saith diwrnod diwethaf - i 144.2 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ond mae Sir Benfro yn parhau i fod yn un o'r siroedd â'r cyfraddau isaf, gyda 97.8 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Siroedd yn y gogledd sydd â'r cyfraddau uchaf, gan gynnwys Sir Ddinbych (274.8), Conwy (229.5) a Wrecsam (203.0).
Dywedodd Darren Thomas, Pennaeth Seilwaith, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd ar Gyngor Sir Penfro: "Nid yw'r pandemig wedi diflannu, mae ein pobl bregus yn parhau i fod mewn perygl o gael eu heffeithio'n ddifrifol gan y feirws.
"Byddwn yn annog pawb i fod yn ofalus os oes gennych gyswllt uniongyrchol â rhywun, neu â rhywun yn eich cartref, sy'n dod o fewn y categorïau bregus. Gallwch basio'r feirws ymlaen iddyn nhw hyd yn oed os nad ydych chi'n dangos symptomau.
"Mae brechu yn hanfodol bwysig. Po fwyaf o bobl y gallwn eu brechu, y cryfaf fydd yr amddiffyniad yn erbyn y feirws hwn. Manteisiwch ar y cyfle i gael eich brechu.
"Rydym yn gwybod ac yn deall bod llawer o bobl yn mwynhau bod mewn clybiau nos am y tro cyntaf mewn 18 mis, ond mae'n dal yn bwysig cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd, gwisgo masgiau y tu mewn, dilyn hylendid dwylo da a chael eich profi.
"Os nad ydych wedi derbyn brechiad, gallwch fynd i un o'n canolfannau brechu torfol yn Sir Benfro."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021