Aelod blaenllaw'n galw am newid arweinydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arfon JonesFfynhonnell y llun, Ceidiog PR
Disgrifiad o’r llun,

Arfon Jones oedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y gogledd cyn iddo gamu o'r neilltu yn gynharach eleni

Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi galw am newid yn arweinyddiaeth y blaid.

Dywedodd cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones ar raglen Newyddion S4C nad oedd yn hapus gydag Adam Price fel arweinydd ar hyn o bryd.

Daeth ei sylwadau yn dilyn cyfweliad gyda'r cyn-arweinydd Leanne Wood, a dywedodd fod y blaid wedi mynd "yn ôl" ers i Mr Price ei herio am yr arweinyddiaeth.

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Leanne. Rwy'n credu i ni gymryd cam yn ôl yn etholiad 2021 er i ni ennill un sedd yn ychwanegol.

"Credaf fod y strategaeth yn anghywir ar gyfer Mai 2021... ymgais at ymgyrch 'arlywyddol' benben gyda Mark Drakeford pan oedd Mark Drakeford, fel y gwyddom, yn boblogaidd iawn yn dilyn llwyddiant yr ymateb i Covid."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers 2018

Pan ofynnwyd i Mr Jones a oedd yn hapus gydag Adam Price fel arweinydd, atebodd: "Yn bersonol, dydw i ddim.

"Rwy'n credu ei bod yn amser newid arweinydd. Dydw i ddim yn siŵr i ba gyfeiriad yr y'n ni'n mynd.

"Roedd ein maniffesto yn un hir iawn, ac ychydig o bobl oedd yn gwybod beth oedd ynddo, gan gynnwys fi."

Dewisodd Plaid Cymru i beidio ymateb i sylwadau Mr Jones wedi iddyn nhw gael cais gan BBC Cymru.