Hinsawdd: Galw ar bawb i 'blannu coeden yn yr ardd'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar unrhyw un yng Nghymru sydd â gardd i blannu coeden ynddo er mwyn helpu mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd dirprwy weinidog newid hinsawdd Cymru, Lee Waters bod y wlad "ymhell tu ôl i ble ni angen bod" ar dargedau plannu coed y llywodraeth.
Yn ôl Mr Waters mae Cymru angen plannu 86 miliwn o goed erbyn 2030 - targed y mae'n cydnabod sy'n "heriol dros ben i ni oll".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod y canllawiau presennol ar blannu coed yn "gymhleth", gan addo cyflwyno system newydd.
Tra y bydd y mwyafrif o'r coed hynny yn cael eu plannu mewn coedwigoedd ac ardaloedd cefn gwlad, mae arbenigwyr yn annog awdurdodau lleol i wneud plannu mewn ardaloedd dinesig yn fwy o flaenoriaeth hefyd.
Buddion annisgwyl
Yn ogystal â'r buddion amgylcheddol, mae ymchwil yn awgrymu bod coed dinesig yn arwain at amryw o fuddion eraill hefyd, o atal llifogydd at leihau trosedd, hyd yn oed.
"Rydyn ni'n cyfeirio atyn nhw fel trump card isadeiledd gwyrdd," meddai Mary Gagen, Athro Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
"Rydyn ni'n gwybod bod siopwyr yn gwario mwy at strydoedd sydd â choed mawr, rydyn ni'n gwybod bod myfyrwyr yn canolbwyntio'n well ar eu gwaith os ydyn nhw'n gallu gweld coed trwy'u ffenest."
Mae amryw o astudiaethau yn yr Unol Daleithiau wedi dod i'r casgliad bod coed yn ffordd effeithiol o atal trosedd hefyd, gyda llai o droseddau ar strydoedd sydd â choed.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn cymryd "camau arwyddocaol " i ddelio â'r diffyg plannu coed, ond ar hyn o bryd mae Cymru ar ei hôl hi o'i gymharu â gwledydd eraill.
Dywedodd Mr Waters bod angen i bawb wneud eu rhan i geisio delio â'r sefyllfa, ac ystyried plannu coeden yn yr ardd.
"Doedden ni ddim wedi plannu digon o goed dros y blynyddoedd - dim ond unwaith yn fy mywyd i ydyn ni wedi plannu 2,000 o hectarau mewn blwyddyn," meddai.
"Nawr ni'n gorfod plannu 5,000 hectar pob blwyddyn tuag at ddiwedd y degawd, a wedyn cynyddu'r targed unwaith eto.
"Mae'n her ond mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan - dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gallu ei wneud ar ei ben ei hun.
"Mae'n rhaid bod 'na bartneriaeth. Mae ffermwyr yn gorfod gofyn sut allan nhw helpu, mae ysgolion, ysbytai yn gorfod edrych o gwmpas eu tir a gofyn ble mae'n bosib i rhoi coedwig yn y ddaear, achos mae'r her sydd o'n blaen ni yn her i ni gyd."
Mae mudiad Cadwch Gymru'n Daclus wedi dechrau plannu pum coedwig fechan, ac wedi cyhoeddi pecynnau ar gyfer cynlluniau i blannu coed mewn ardaloedd trefol.
"Fel rhan o'r cynllun Coedwigoedd Bychain mae pump safle yn mynd i gael eu plannu, efo tua 1,000 o goed mewn safle rili bach fel maint cwrt tenis - yn ardaloedd falle mwy trefol hefyd," meddai Nia Lloyd o'r mudiad.
"Felly bydd hwnna'n helpu nid yn unig efo'r amgylchedd a'r answadd aer, ond hefyd mannau i fwynhau a llefydd i ddysgu mwy am yr amgylchedd i bobl ifanc hefyd.
"Mae targedau Llywodraeth Cymru yn bwysig iawn. Ni'n gwybod ni mewn argyfwng amgylcheddol ar y foment ac mae unrhywbeth ni'n gallu 'neud yn mynd i helpu hynny.
"Ond mae hefyd yn dangos i weddill y byd bod ni'n arwain y ffordd yn datrys, neu falle helpu datrys, y broblem o newid hinsawdd sydd gyda ni ar y foment.
"Mae unrhyw beth allwn ni ei roi lawr ar bapur i anelu ato yn bwysig iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020