'Coedwigoedd newydd yn dinistrio cymunedau gwledig'
- Cyhoeddwyd
Mae cymunedau gwledig yn cael eu dinistrio wrth i gwmnïau mawrion o Loegr brynu ffermydd er mwyn plannu coed - dyna rybudd ymgynghorydd amaethyddol.
Mae 'na alwad ar i Lywodraeth Cymru ail-ystyried eu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer plannu coed er lles yr amgylchedd, yn sgil pryderon fod cwmnïau mawrion yn elwa ar draul trigolion cefn gwlad.
Mae cwmni sydd wedi ei leoli yn adeilad y Shard yn Llundain wedi cadarnhau wrth BBC Cymru eu bod wedi prynu pedair fferm yn ardal Cwrt Y Cadno yn Nyffryn Cothi, Sir Gâr yn ddiweddar.
Dywedodd y cwmni y byddai'n creu coedwigoedd newydd fel rhan o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Dywedodd y llywodraeth bod coedwigoedd newydd yn creu cyfleoedd i gymunedau, a'i bod yn "annhebygol" y bydd buddsoddwyr yn ymgeisio am y grantiau sydd ar gael.
Mae Frongoch, Brynglas ac Esgair hir ar dir heddychlon Cwrt y Cadno, a Fferm Banc rai milltiroedd oddi yno.
Ond mae'r dyfroedd wedi corddi ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod cwmni Foresight bellach yn berchen y tir. Mae gwefan y cwmni'n dweud eu bod yn rheoli asedau gwerth £7bn.
Maen nhw wedi cadarnhau y byddan nhw'n plannu coed yn ardal Cwrt Y Cadno.
'Coed lle bu cymdogaeth'
Ar fferm Frongoch y cafodd John Thomas ei eni a'i fagu a bu'n amaethu yno am dros 50 mlynedd, cyn gwerthu ei gartref yn 2018.
Ddechrau'r flwyddyn, roedd Frongoch ac un arall gerllaw yn ôl ar y farchnad am £2.2m. Ac mae cynlluniau'r perchnogion newydd wedi torri ei galon.
"Mae'n dorcalonnus i fi, ac yn hollol anghyfrifol eu bod nhw'n cael hawl i blannu daear sy'n gynhyrchiol yma," meddai Mr Thomas.
"Os fydd llawer o'r ddaear gynhyrchiol yma yn cael ei blannu, bydd llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu yn y wlad hyn a so ni'n cynhyrchu digon yn barod."
Mae nifer o ffermydd yn cael eu prynu er mwyn i gwmnïau mawr wrthbwyso eu hallyriadau carbon. Ac mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi cynllun grant ar gyfer plannu coed.
"Dyle fod pob ffermwr sy'n ffermio yma fod yn cael y grantie sydd ar gael, dim y grantie yma yn mynd i gwmnie mawr di-wyneb o Loegr a Llundain - aberthu daear Cymru er mwyn iddyn nhw gael byw yn wastrafflyd ac arllwys carbon mas, er mwyn iddyn nhw gael cadw eu ffordd o fyw, ac aberthu ni yng Nghymru, ein ffermwyr ni a'n daear," ychwanegodd Mr Thomas.
"Ta faint o goed blannan nhw, fydd e ddim yn ddigon i ddadwneud y carbon sy'n cael ei arllwys mas o Heathrow, fi ddim yn credu cyfre fe'r carbon mas o Heathrow am wythnos mewn blwyddyn a gweud y gwir."
Mae stori debyg yn Llanwrtyd, Powys, ble cafodd fferm deuluol Susan Price ei phrynu ar gyfer plannu coed yn y 70au. Bellach mae tair fferm wedi eu prynu yn yr ardal ar gyfer yr un pwrpas.
"Ma' bywoliaeth, siope, y gymuned, iaith, hyd yn oed enwau'r caeau - ma' rheiny'n mynd.
"Pan fo ffermydd cyfan yn mynd, dwi'n hollol yn erbyn hynna.
"I ddyfynnu Gwenallt - ma fe'n hollol wir dwi'n ofni - coed lle bu cymdogaeth, fforest lle bu ffermydd - gyda'r patrwm yn parhau, mae'r geirie yna yn hollol wir."
Gwrthbwyso ôl-troed carbon
Dywedodd cwmni Foresight eu bod wedi prynu'r pedair fferm yn Sir Gâr er mwyn sefydlu coedwigoedd newydd, a bod hynny yn rhan bwysig o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
"Ry'n ni yn y dyddiau cynnar ond ein bwriad yw gwerthu neu rhentu unrhyw dir sy'n anaddas ar gyfer coed yn ôl i'r gymuned," meddai llefarydd.
"Mae coedwigaeth yn denu llygaid buddsoddwyr, am ei fod yn rhan allweddol o ymdrechion y DU i ddelio â newid hinsawdd.
"Mae gan bob coedwig newydd yn y DU y potensial i'w defnyddio er mwyn gwrthbwyso ôl-troed carbon."
Yn ôl ymchwil yr ymgynghorydd amaethyddol Dai Dyer, mae nifer o ffermydd wedi eu gwerthu'n ddiweddar yn y rhanbarth.
"Halodd hi obiti dwy awr i ffeindio mas bo' oddeutu 12 fferm yn ardaloedd Abergorlech, Cwrt Y Cadno, Llanwrtyd, Myddfai, Rhydcymerau a Llansawel wedi cael eu prynu'n ddiweddar a ma'r pwrpas oedd plannu coed ar y ffermydd - nid bobl leol y'n nhw ond cwmnïe mawr o Lundain.
"Ma' plannu o'r fath yn mynd i leihau'r bobl sy'n byw o fewn y gymuned.
"Ma' nhw'n mynd i gael gwared ar ffarm, bob tro ma' nhw'n prynu ffarm. Bydd y bywyd cymunedol yn lleihau a bydd yr iaith yn lleihau."
'Gwraidd y broblem'
Cafodd y prosiect Coedwig Genedlaethol Cymru, dolen allanol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yng ngwanwyn 2020 gyda'r nod o "roi cyfleoedd i gymunedau lleol fod yn rhan o'r fenter, gan hybu'r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yr ardaloedd hynny".
Fel rhan o'r cynllun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion grant Buddosddi Mewn Coetir yn ddiweddar. Gall unrhyw un sy'n berchen ar dir yng Nghymru ymgeisio.
Mae Dai Dyer yn poeni y bydd cwmnïau mawr yn elwa ar draul cymunedau amaethyddol, ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried ar frys.
"Y peth cynta' i 'neud yw newid canllawie'r grant a nodi bod yn rhaid i bobl sy'n cael y grantiau gan Lywodraeth Cymru fod yn byw yng Nghymru," meddai.
Yn ogystal â chyfyngu coedwigoedd newydd i 10% o safleoedd fel ffermydd, mae hefyd am weld gorfodaeth am ganiatâd cynllunio ar gyfer coetiroedd newydd.
"Ma' 'na ddigon o atebion! Y cwmnie mawr yma yn Llundain, gofynnwch iddyn nhw edrych ar eu daear eu hunain gynta' - yr holl ddaear yn Lloegr - alle hwnnw gael ei blannu.
"A ma' ishe cofio taw yn Lloegr ma'r canran isa' o goed yn y Deyrnas Unedig. Gadewch i bobl fynd i le ma' gwraidd y broblem."
Beth ydy'r ymateb?
Dywedodd AS Plaid Cymru Ben Lake bod gan blannu coed "rôl hanfodol" wrth geisio taclo newid hinsawdd.
Ond dywedodd bod rhaid "cynllunio a rheoli'n gywir" er mwyn osgoi "goblygiadau oedd ddim wedi eu rhagweld i gymunedau gwledig".
Galwodd am "reolaeth leol" i gynlluniau plannu coed, er mwyn i "gymunedau gwledig weithio gyda'r llywodraeth i elwa o'r newid".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cynllun Buddsoddi Mewn Coetir yn cynnig grant o hyd at £250,000 i dirfeddianwyr, a'r rhai sydd â rheolaeth lwyr ar dir yng Nghymru.
"Mae'n annhebygol y byddai buddsoddwyr sy'n prynu tir i blannu coed ar raddfa fawr yn ymgeisio am y grant hwn, oni bai eu bod yn anelu at greu menter lle byddai'r gymuned leol yn elwa ac yn defnyddio'r cyfleusterau."
Ychwanegodd y llefarydd mai bwriad y cynllun ydy creu coetiroedd "sydd wedi eu rheoli'n dda, ar agor i bobl ac yn rhoi cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o'r coedwigoedd, gan helpu i hybu'r iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru".
Bydd ymgynghoriad swyddogol yn dechrau yn ddiweddarach eleni, meddai.
Ond mae llefarydd ar ran cwmni Foresight wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n ystyried ymgeisio am y grant gan Lywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021