Oes modd gwella cleifion ysbyty yn gynt yn yr awyr agored?
- Cyhoeddwyd
Bydd astudiaeth newydd yn edrych a allai trin cleifion ysbyty yn yr awyr agored gyflymu adferiad a gwella iechyd meddwl.
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn £50,000 gan Lywodraeth Cymru i werthuso dau brosiect mewn ysbytai yn y de.
Mae un yn cynnwys creu canolfan gofal iechyd ac adferiad (rehabilitation) awyr agored yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn darparu tystiolaeth ar gyfer mwy o gynlluniau.
Bydd yn archwilio buddion y prosiect Ffit ar gyfer y Dyfodol, a sefydlwyd gan fenter gymdeithasol Down to Earth, mewn dau safle.
Y cyntaf yw Ein Dôl Iechyd yn yr ysbyty yn Llandochau, Bro Morgannwg, a ddechreuodd ym mis Mehefin ac sy'n dod â chleifion, staff a'r gymuned leol ynghyd i drawsnewid cae saith erw (dwy hectar) a saith erw arall o goetir o'i amgylch yn ardal cyfleuster gofal iechyd ac adfer awyr agored hygyrch.
Bydd yr ail, cynllun yn y dyfodol yng Nghanolfan Ganser Felindre, yn creu mannau gwyrdd fel rhan o'r hyn a fydd yn dir newydd yr ysbyty.
Dywedodd yr Athro Jason Davies, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, fod y prosiectau hyn yn cymryd syniadau o'r gorffennol sydd wedi'u hanwybyddu yn fwy diweddar.
"Trwy gydol y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, roedd triniaeth awyr agored yn rhan o ofal iechyd bob dydd," meddai.
"Roedd gwelyau fel arfer yn cael eu rhoi ar olwynion i falconïau mewn ysbytai cyffredinol er mwyn caniatáu i gleifion gael awyr iach, ac mewn cyfleusterau seiciatryddol roedd gerddi ac ardaloedd ffermio yn rhan allweddol o greu awyrgylch o normalrwydd a thawelwch, ac i ddarparu ymarfer corff."
Uchelgais y prosiect yw cynnwys cleifion, staff y GIG a'r gymuned leol wrth ddylunio a chreu lleoedd cynaliadwy sy'n gadarn yn amgylcheddol o fewn ysbytai.
Dywedodd Down to Earth ei fod yn ddull a oedd yn "dda i bobl ac yn dda i'r blaned".
Ychwanegodd Dr Kim Dienes, sydd hefyd ar y tîm ymchwil: "Cydnabyddir bod mentrau gwyrdd yn arbennig o bwysig ar ôl y clo'r flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'r cynllun Ffit ar gyfer y Dyfodol yn integreiddio iechyd meddwl, ymgysylltu ecolegol, a lles rhai o'r bobl sydd ei angen fwyaf: staff a chleifion y GIG."
Dywedodd yr ymchwilwyr, er bod pobl yn gyffredinol yn cytuno bod mannau gwyrdd yn bwysig ar gyfer iechyd a lles, nid oedd llawer iawn o ddata i ategu hyn.
Maen nhw'n gobeithio darparu tystiolaeth a allai arwain at ehangu prosiectau fel hyn i weddill Cymru a'r DU.
Bydd yr astudiaeth yn defnyddio bwth gwrando i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn teimlo wrth gymryd rhan ac yna sawl mis yn ddiweddarach, ochr yn ochr ag arolygon iechyd meddwl.
Mae staff y GIG sy'n cymryd rhan hefyd yn cael eu gwahodd i ddarparu samplau poer i astudio eu lefelau cortisol.
"Mae cortisol yn hormon sy'n gysylltiedig yn aml â straen, felly trwy gymryd swab yn y geg gallwn fonitro lefel y cortisol dros amser," meddai'r Athro Davies, gan ddisgrifio hwn fel nodwedd fwyaf arloesol yr ymchwil.
Bydd yr astudiaeth yn cychwyn y mis nesaf a bydd yn parhau tan fis Mehefin 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021