'Safon gofal iechyd yn ystod y pandemig yn dda'
- Cyhoeddwyd
Roedd safon gofal iechyd yn Nghymru yn ystod cyfnod pandemig Covid-19 yn "dda ar y cyfan" er fod yna bryderon penodol - yn ôl y corff sy'n gyfrifol am arolygu gwasanaethau iechyd.
Mae adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn canmol ymdrechion "rhagorol" staff "hynod ymroddedeig" wrth ymateb i heriau "cwbl ddigynsail".
Ond mae'n dweud fod gwersi pwysig i'w dysgu o ran prosesau atal heintio er mwyn lleihau'r risg o Covid-19 yn y dyfodol.
Mae'r arolygiaeth hefyd yn galw am fwy o gefnogaeth i warchod lles corfforol a meddyliol staff wrth i'r gwasanaeth iechyd ailadeiladu ar ôl y pandemig.
Fe wnaeth yr adroddiad ystyried sawl maes allweddol a chanfod:
Amgylchedd gofal
Trefniadau da ar y cyfan i sicrhau y gallai cymaint o wasanaethau a bo modd barhau i weithredu yn ystod y pandemig - a oedd yn cynnwys gwasgaru amseroedd apwyntiadau, newid trefniadau cyrraedd a gadael ysbytai a symud gwasanaethau i leoliadau gwahanol.
Mae'n ymddangos fod cyflwyno apwyntiadau rhithiol ar gyfer ysbytai a meddygfeydd wedi cael ei groesawu gan y cyhoedd, ond bod angen mwy o adborth gan bobl sy'n cael anhawster cysylltu yn ddigidol.
Roedd 'na ganmoliaeth o'r defnydd o ddyfeisiau electronig i alluogi cleifion i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd mewn cyfnodau lle roedd ymweliadau yn cael eu cyfyngu, ond nodwyd bod angen gwneud mwy o ddefnydd o'r rhain i hwyluso trafodaeth â theuluoedd am gynlluniau gofal.
Nodwyd bod pryder am ddiffyg gweithredu mewn rhai byrddau iechyd yn dilyn asesiadau risg - yn benodol pryderon am arferion anghyson mewn lleoliadau iechyd meddwl.
Ar y cyfan mae'r adroddiad yn nodi bod "trefniadau da" wedi eu cyflwyno mewn ysbytai maes ac mewn canolfannau brechu torfol - er bod yna heriau mewn rhai mannau fel dŵr yn gollwng, cyfleusterau toiledau annigonol a dim digon a ardaloedd ynysu cleifion.
Mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwella cadw cofnodion mewn ysbyty maes yn y gogledd.
Dywedodd yr adroddiad y dylai byrddau iechyd sicrhau eu bod yn parhau â'u "cynnig rhagweithiol" o ddarparu gwasanaethau Cymraeg ochr yn ochr â chyflwyno modelau newydd (ee ysbytai maes a chanolfannau brechu) - wedi i arolwg awgrymu na ofynnwyd i 65% o ymatebwyr ym mha iaith oedd yn well ganddynt gyfathrebu.
Trefniadau atal a rheoli heintiau
Fe gafodd prosesau priodol eu cyflwyno i leihau'r risg o drosglwyddo Covid gan gynnwys profi, sgrinio ac ynysu cleifion ar sail statws Covid-19.
Fodd bynnag, er gwaethaf y trefniadau hyn gwelwyd nifer o achosion lluosog mewn ysbytai yn ystod ail don y pandemig.
Ar y cyfan roedd y trefniadau i ymchwilio i'r rhain yn briodol, er fod rhai staff ddim yn gwybod sut roedd y broses yn gweithio.
Cofnodwyd bod defnydd cywir o PPE, ym mwyafrif lleoliadau, a phwyslais cryf ar olchi dwylo a glendid.
Roedd yna bryder penodol fod rhai deintyddfeydd wedi gweithredu y tu allan i gyfyngiadau Covid-19 - yn benodol y defnydd amhriodol o weithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol, ee. triniaethau ar gyfer adfer coronau dros dro, llenwadau parhaol a thriniaethau sianel y gwreiddyn.
Er bod modd cyfiawnhau'r rhain dywedodd yr adroddiad na chawson nhw eu nodi yn gywir yng nghofnodion deintyddol y cleifion.
Pwysau ar y gweithlu
Mae canmoliaeth i staff am fynd "gam ymhellach" ar gyfer cleifion a'u cydweithwyr - ond pryder mawr am lefelau straen, gorbryder a blinder yn ystod yr ail don yn benodol, gyda staff yn delio â Covid yn ogystal â phwysau arferol y gaeaf.
Cafodd lefelau staffio eu rheoli'n effeithiol ar y cyfan - ond roedd llawer iawn o ddibyniaeth ar staff dros dro ar adegau oherwydd, profi, hunanynysu a salwch.
Mewn rhai adrannau doedd dim modd i staff gwblhau hyfforddiant, neu roedd gofyn iddyn nhw wneud hynny yn eu hamser eu hunain.
"O edrych nôl ry'n ni wedi dysgu bod y gwasanaeth iechyd wedi gwneud y trefniadau addas ar gyfer gofynion y pandemig ac wedi parhau i gynnig gofal da ar y cyfan - serch hynny mae 'na ddigon i ddysgu wrth edrych 'mlaen," meddai Rhys Jones o AGIC.
"Yn sicr roedd y pandemig wedi dod â heriau syfrdanol i wasanaethau iechyd, roedd na addasiadau ar frys wedi cael eu gwneud o ran yr amgylchedd ac i sicrhau fod pobl yn cael eu gweld yn ddiogel. Roedd y staff yn hynod o hyblyg hefyd o ran y gofynion - ac mae gofynion mawr yn parhau..
"Yn amlwg yn ystod yr ail don fe welon ni drafferthion yn yr ysbytai o ran y feirws yn lledu. Beth sydd angen gwneud yw dysgu o'r profiad hynny. Mae'n anodd dileu'r posibilrwydd yn gyfangwbl ond mae angen dysgu o'r profiad a gwneud yn siŵr fod staff yn cael y canllawiau a'r hyfforddiant priodol.
"Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb ac mae 'na her syfrdanol yn wynebu'r gwasanaeth iechyd o ran sicrhau bod ni'n byw gyda'r pandemig... a sicrhau bod staff yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi - mi fydd yn her aruthrol dod o hyd i'r cydbwysedd cywir."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ymrwymiad ac ymdrechion holl staff y GIG wedi bod yn anhygoel yn ystod y pandemig ac rydym yn falch bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod yn yr adroddiad hwn gan AGIC.
"Roedd y pandemig yn gweld technoleg newydd a ffyrdd o weithio gan fyrddau iechyd ledled Cymru yn cael eu mabwysiadu'n gynnar ac yn gyflym.
"Wrth i ni edrych i'r dyfodol rydym wedi amlinellu buddsoddiad o £100m i roi hwb cychwynnol i adfer y system iechyd a gofal."
Y drefn arolygu
Dros gyfnod y pandemig fe fu'n rhaid i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wneud newidiadau mawr i'w brosesau arolygu ac adolygu.
Ar y cychwyn fe fu'n rhaid i AGIC ohirio'r gweithgarwch arolygu ac adolygu rheolaidd dros-dro (sy'n aml yn golygu nifer o bobl yn ymweld ag ysbytai) er mwyn cefnogi'r ymdrechion i ddiogelu cleifion.
Ar achlysuron roedd modd ymweld â safleoedd er mwyn ymateb i bryderon penodol a chafodd system newydd o wirio o bell ei ddatblygu.
Rhwng Chwefror 2020 a diwedd Mawrth 2021 - fe gafodd 90 o arolygiadau eu cynnal o bell a 23 o arolygiadau eu cynnal ar safleoedd fel clinigau, deintyddfeydd, ysbytai maes a chanolfannau brechu torfol.
Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaeth yr arolygiaeth ymateb i 121 o gwynion yn benodol yn gysylltiedig â'r pandemig - 87 o'r rhain yn ymwneud â'r gwasanaeth iechyd a 35 yn gysylltiedig â darparwyr preifat.
Yn y dyfodol bwriad yr arolygiaeth yw gweithio mewn ffordd hyblyg drwy ailgyflwyno mwy o arolygiadau yn y fan a'r lle tra'n parhau â'r gwaith o wirio o bell.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021