Gweithio yn yr 'awyr agored' yn help i wella pobl fregus

  • Cyhoeddwyd
Down to Earth
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y cynllun 15 mlynedd yn ôl

Mae prosiect arloesol i helpu pobl fregus i ddod yn annibynnol wedi cael ei ganmol gan arbenigwyr blaenllaw.

Mae cynllun Down to Earth ar benrhyn Gŵyr yn darparu profiadau awyr agored i helpu i roi hyder i bobl ddychwelyd i'r byd gwaith.

Daw'r ganmoliaeth wrth i ymchwil gael ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe i effeithiolrwydd y cynllun yn y Journal of Mental Health.

Roedd yr ymchwil yn edrych ar sut roedd y cynllun yn cefnogi pobl o oed ifanc i gleifion oedd yn gwella ar ôl strôc neu iselder.

Mae Down to Earth wedi bod yn cynnig cyrsiau am y naw mlynedd diwethaf ac yn helpu pobl a chleifion ddaw o dri bwrdd iechyd a cholegau lleol.

Mae pobl yn dysgu sut i wneud pethau yn yr awyr agored, yn cynnwys codi adeiladau allan o ddeunyddiau traddodiadol fel pren a mwd.

Mae'n gymysgedd o waith ymarferol, awyr agored, gweithio mewn timau a chael amser i drafod eu heriau gyda gweithwyr proffesiynol mewn awyrgylch hamddenol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Thomas-Nosman yn teimlo fod y cynllun wedi bod o fudd iddi

Roedd Sara Thomas-Nosman, o Dreforys, Abertawe, yn rhedeg dau fusnes ac yn gofalu am dri phlentyn pan gafodd strôc dair blynedd yn ôl.

"Deffrais yn yr ysbyty yn ddall ac roedd lawr un ochr fy nghorff wedi ei barlysu - roedd fel fy mod wedi deffro yn hanner marw. Ac roeddwn yn galaru i'r 'hen fi' i ddod yn ôl."

Cymerodd dri mis i Sara Thomas-Nosman gerdded eto ac fe wnaeth hi gynnydd corfforol - ar wahân i golli symudiad mewn un fraich - ond roedd y strôc hefyd wedi effeithio ar ei hemosiynau a'i hyder.

Daeth Sara, sy'n 51 oed, i Down To Earth a dywedodd fod y gwasanaeth a'r gefnogaeth wedi bod yn "rhan hanfodol" yn y broses o wella.

Roedd y gweithgareddau y bu hi'n ymgymryd â nhw yn cynnwys gweithio gyda choed, bod yn yr awyr agored, dysgu sgiliau coedwigaeth a bod yn rhan o dîm.

"Roeddwn i eisiau dod o hyd i bethau a fyddai'n dod â'r hen fi yn ôl. Ac fe wnaeth i mi deimlo'n werth rhywbeth. Maen nhw'n sicrhau yma bod eich anghenion yn cael eu diwallu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae crefftau coed yn rhan o'r cynllun

Mae Sara bellach wedi dychwelyd i fod yn rhan o'r cynllun fel mentor ac i helpu cleifion sydd â chlefyd Parkinson.

Mae hi hefyd wedi dysgu sut i fod yn weithredwr teledu cylch cyfyng ac mae hi yn chwilio am waith. "Rydw i eisiau profi fy mod i'n gyflogadwy - mae fy ymennydd yn iawn, dim ond fy mraich sydd ddim yn gweithio."

Cynhaliodd yr Athro Jason Davies, seicolegydd ym Mhrifysgol Abertawe, ymchwil annibynnol i effaith y cyrsiau wyth wythnos a dywedodd fod pobl yn gwneud "enillion sylweddol," yn ogystal â dysgu sgiliau newydd.

Disgrifiodd y gwaith fel "cam cyntaf cyffrous iawn" a bod y gwaith yn Down to Earth wedi cael effaith fwy parhaol na'r dull clinigol traddodiadol.