Dim ymchwiliad i'r llywodraeth nes bo'r 'pandemig tu ôl i ni'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n union flwyddyn ers ôl i'r person cyntaf o Gymru farw â Covid-19

Mae angen cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddelio â Covid-19 pan fydd y "pandemig tu ôl i ni", yn ôl y Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn rhaid i'r pandemig fod "ar ben" cyn cynnal ymchwiliad, ond bod angen i weinidogion fod yn "hyderus ein bod ni'n dod allan ohono yn ddiamwys".

Mae'r Ceidwadwyr yn bwriadu comisiynu ymchwiliad "cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl" os ydyn nhw mewn grym ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dywedodd Plaid Cymru bod angen cynnal yr ymchwiliad "tra bod atgofion yn ffres", ac na ellir "disgwyl nes i'r pandemig fod drosodd".

Union flwyddyn ers iddi gael ei chyhoeddi bod y person cyntaf yng Nghymru wedi marw â coronafeirws, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd dwy goedlan newydd yn cael eu plannu "fel cofebion byw parhaol i bawb sydd wedi marw".

Fe fydd union leoliadau'r ddau safle yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf - un yn y gogledd, un yn y de.

Faint o bobl sydd wedi marw â Covid-19?

Ar 15 Mawrth, cofrestrwyd 5,454 o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol hyd at 26 Chwefror yn dangos y soniwyd am Covid ar 7,592 o dystysgrifau marwolaeth.

Mae'r ystadegau yma yn cynnwys marwolaethau lle mae Covid naill ai'n cael ei gadarnhau neu ei amau gan feddygon, ac mae'n cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, gan gynnwys cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl.

Mae asesiad o'r holl farwolaethau o unrhyw achos dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos 5,447 o farwolaethau yn uwch na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Wrth edrych ar gyfraddau marwolaeth yn seiliedig ar boblogaethau lleol, mae gan Gymru bedair ardal yn yr 20 uchaf ledled Cymru a Lloegr - Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Chastell-nedd Port Talbot.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y dylid disgwyl i Gymru ddod trwy'r pandemig cyn cynnal ymchwiliad

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Covid-19 yn "gadael marc a fydd yn para am nifer o flynyddoedd".

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae'n drist dweud bod miloedd o deuluoedd yng Nghymru a fydd wedi colli rhywun yn ystod y pandemig, ond bydd yn newid y ffordd rydyn ni'n meddwl am ein dyfodol ein hunain - am y ffordd rydyn ni'n gweithio, am y rhagofalon rydyn ni'n eu cymryd pan fydd digwyddiadau byd-eang o'r math hwn yn gallu cael effaith mor ddwys arnom yn lleol."

Fis Mehefin y llynedd, cytunodd gweinidogion Cymru y dylid cynnal ymchwiliad annibynnol i'w hymdriniaeth o'r pandemig.

Ond dywedodd y llywodraeth y dylai fod yn rhan o ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

Ni ymrwymodd gweinidogion i amserlen ar gyfer yr ymchwiliad er gwaethaf galwadau'r gwrthbleidiau ar y pryd i'r ymchwiliad adrodd cyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

'Dim yn Gymreig yn unig'

Pan ofynnwyd iddo pryd y gallai ymchwiliad gael ei gynnal, dywedodd Mr Drakeford: "Rhaid iddo fod ar y pwynt pan allwn fod yn hyderus bod y pandemig y tu ôl i ni.

"Nid wyf yn golygu o reidrwydd bod e ar ben, ond bod ni'n hyderus ein bod yn dod allan ohono yn ddiamwys.

"Ac yna mae angen iddo fod yn ymchwiliad sydd ddim yn Gymreig yn unig oherwydd bod cymaint o'r hyn sydd wedi digwydd i ni yng Nghymru wedi'i gysylltu â darlun ehangach y DU.

"Felly, mae angen iddo fod ar adeg pan allwn ni dynnu'r holl edeifion hynny at ei gilydd ac yna bydd yn hollol iawn ein bod ni'n edrych yn ôl ac yn dysgu gwersi'r hyn sydd wedi digwydd."

Ychwanegodd Mr Drakeford yn y Senedd ddydd Mawrth y byddai'r ymchwiliad ledled y DU "heb os, yn edrych ar penderfyniadau Llywodraeth Cymru hefyd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai'r ymchwiliad fod yn rhan o un ehangach ledled y DU

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylid cynnal ymchwiliad "ar lefel y DU a Chymru", gyda'r blaid yn ymrwymo "i weithredu un yng Nghymru ar ôl etholiad Senedd mis Mai" os ydyn nhw mewn grym.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Yn anffodus, yr wythnos hon rydym wedi dysgu am gynghorau Cymru yn adrodd bod dwywaith cymaint o drigolion cartrefi gofal wedi marw yn ail don y pandemig o'i gymharu â'r un cyntaf, ac mae'n ofnadwy nad yw gwersi wedi'u dysgu.

"Mae'r ail don hefyd wedi gweld nifer sylweddol o heintiau mewn ysbytai, a gyda thonnau pellach wedi'u modelu, mae'n hanfodol bod ymchwiliad yn cael ei gomisiynu cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ar ôl mis Mai er mwyn i ni baratoi orau, dysgu gwersi, gwella protocolau diogelwch ac achub bywydau Cymreig."

'Pobl Cymru'n haeddu dim llai'

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "araf" i ddechrau'r ymchwiliad.

"Mae'n rhaid i'r ymchwiliad ddechrau tra bod atgofion yn ffres, mae'n rhaid iddo fod yn benodol am Gymru, ac ni all ddisgwyl nes i'r pandemig fod ar ben," meddai.

"Ni all unrhyw un ddweud pryd y bydd y pandemig yma tu ôl i ni, felly ni all Cymru ddisgwyl i ddysgu gwersi o'r flwyddyn ddiwethaf."

Ychwanegodd bod "pobl Cymru yn haeddu dim llai" na chael ymchwiliad sy'n canolbwyntio'n benodol ar ymdriniaeth Cymru o'r pandemig.