Mochyn daear wedi'i hoelio i goeden ger Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ar ôl i fochyn daear gael ei ganfod wedi'i hoelio i goeden ger Dinbych.
Cafodd yr anifail, sydd wedi'i warchod dan y Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, ei ganfod yn farw gan gerddwr yn ardal Nantglyn fore Iau.
Yn ôl Tîm Troseddau Cefn Gwlad y llu roedd y mochyn daear wedi'i hoelio i'r goeden gerfydd ei draed, 10 troedfedd oddi ar y llawr.
Dywedodd y Cwnstabl Richard Smith o Heddlu'r Gogledd eu bod eto i gadarnhau achos marwolaeth yr anifail ond y bydd prawf post-mortem yn cael ei gynnal.
"Mae'n anodd credu bod pobl yn erlid moch daear yng ngogledd Cymru o hyd," meddai. "Byddwn yn parhau gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â digwyddiadau ffiaidd fel hyn."
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â Thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101.