Y Gynghrair Genedlaethol: Solihull Moors 2-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe ildiodd Wrecsam gôl funud olaf gan adael i Solihull Moors ddod yn gyfartal yn eu gêm gynghrair gyntaf dan berchnogaeth yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Roedden nhw wedi llwyddo i unioni'r sgôr a mynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i Joe Sbarra dorri eu calonnau trwy sgorio ei ail gôl o'r gêm i gipio pwynt i'r tîm cartref.
Roedd wedi rhoi Solihull ar y blaen wedi 18 o funudau, ond fe sgoriodd Paul Mullin o'r smotyn i wneud hi'n 1-1 wedi 26 o funudau.
Pedair munud wedi hynny fe roddodd David Jones Wrecsam ar y blaen gyda foli arbennig.
Roedd yn ymddangos y byddai Wrecsam yn llwyddo i gadw'r fantais tan y chwiban olaf a sicrhau triphwynt ar ddechrau'r ymgyrch i anelu am ddyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol nes ail gôl Sbarra yn y funud olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021