Sut y daeth sêr Hollywood yn berchnogion Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Pan dderbyniodd Spencer Harris, cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, alwad ffôn ym mis Mai 2019, prin y gallai wedi dychmygu'r cynnwrf a'r cyffro oedd i ddilyn.
Galwad ydoedd i weld os fyddai ganddo ddiddordeb i gael sgwrs gyda banciwr o Efrog Newydd oedd yn cynrychioli unigolion gyda diddordeb mewn prynu'r clwb, oedd yn nwylo Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ar y pryd.
Yr unig gliw y cafodd Spencer am y darpar brynwyr oedd bod yr unigolion yn "bobl enwog ac yn bobl gyfoethog" ond y byddai eu diddordeb "yn beth da i'r clwb".
Yn ddiweddarach cafodd y cysylltiad ei wneud rhwng y clwb ac un o'r unigolion hynny - ond heb wybod ei enw.
"Doedd o ddim yn mynd i ddweud pwy oedd o, ar wahân mai dweud ei enw oedd Rob," meddai Spencer ar raglen BBC Radio Cymru, I Mewn i'r Gôl, fydd yn olrhain hanes yr actorion yn cymryd drosodd y clwb.
"Ond o beth roedd yn ei ddweud, mi wnes i ychydig bach o ymchwil ac roeddwn i yn meddwl mai Rob McElhenney oedd o."
McElhenney, awdur a seren y gyfres gomedi Americanaidd It's Always Sunny in Philadelphia, oedd y gŵr bu Spencer Harris yn sgwrsio hefo dros y ffôn.
Roedd hi'n gyffrous, meddai Spencer, pan gafwyd cadarnhad mai McElhenney a seren arall o Hollywood, Ryan Reynolds, oedd eisiau prynu'r clwb, yr hynaf yng Nghymru.
Ond nid penderfyniad Spencer Harris nag unrhyw swyddog arall y clwb oedd gwerthu neu beidio - y cefnogwyr fyddai'n cael y gair olaf.
Wedi cyflwyniad rhithiol fis Medi'r llynedd gan y darpar brynwyr i aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, fe bleidleisiodd 98.6% o blaid eu cynnig.
'Dyddiau da o'n blaenau'
"Mae o dal yn anodd i'w goelio," meddai cyn-chwaraewr canol cae Wrecsam, Waynne Phillips wrth ystyried datblygiadau'r flwyddyn ddiwethaf.
"Y diwrnod yr oedd y newyddion yn torri roeddwn yn meddwl bod fi'n cael breuddwyd."
"Rhaid i fi fod yn hollol onest, doeddwn i ddim yn adnabod y perchnogion ond wedi gwneud gwaith ymchwil dros y misoedd diwethaf a dwi yn gallu gweld beth mae nhw'n gallu dod i'r clwb.
"Mae o wedi bod yn wych i weld be' mae nhw wedi bod yn gwneud dros y chwe mis ddiwethaf ac mae'n anhygoel i feddwl beth sydd yn mynd ymlaen yn y cefndir.
"Rŵan 'da ni'n gobeithio bod o'n dod at ei gilydd ar y cae a bod dyddiau da o'n blaenau ni."
'Tydi o ddim yn stynt'
Prif nod y perchnogion fydd sicrhau dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr - bu'n 14 mlynedd ers i'r clwb gwympo i'r Gyngres.
Ond yn ogystal â sicrhau llwyddiant ar y maes, mae McElhenney a Reynolds yn awyddus i wneud eu marc mewn ffyrdd eraill.
Maen nhw'n buddsoddi yn nhîm merched y clwb ac wedi cefnogi achosion da yn lleol, gyda Reynolds yn datgan eu bod am fuddsoddi yn y gymuned leol, nid yn unig y clwb pêl-droed.
Fe ymddangosodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes mewn fideo gyda'r ddau seren i hyrwyddo'r rhaglen ddogfen pry ar y wal sydd yn dilyn hanes y clwb - Welcome to Wrexham.
"Mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr ardal yn Wrecsam, yng Nghymru, a'r iaith Gymraeg," meddai Maxine.
"Maen nhw yn cymryd diddordeb yn beth sydd yn mynd ymlaen yn y gymuned, maen nhw eisiau bod yn rhan o'r gymuned ac eisiau gwneud rhywbeth a rhoi rhywbeth yn ôl i Wrecsam.
"Tydi o ddim yn stynt o gwbl."
Mae cael sêr Hollywood yn berchnogion wedi cael effaith mawr ar broffil y clwb yn fyd-eang, fel yr eglura Ollie Williams - aelod o dîm digidol y clwb.
"Twitter, Instagram a phopeth fel yna - dwi byth wedi gweld unrhyw beth fel hi," meddai Ollie. "Dwi methu credu'r rhifau.
"Does 'na ddim clwb pêl-droed dros y byd dwi'n meddwl sydd mor gyffrous â Wrecsam rŵan.
"Mae pawb yn hapus a pawb yn edrych ymlaen, a dim yn ôl."
Gyda'r platfform cymdeithasol byd eang TikTok bellach yn noddi'r clwb, fe werthwyd mwy o grysau'r tîm mewn un diwrnod nag a werthwyd drwy gydol y tymor diwethaf.
Dyrchafiad yw'r nod y tymor hwn medd Ollie, gyda Phil Parkinson wedi ei benodi'n rheolwr i geisio gwireddu'r freuddwyd honno.
"Does dim rheswm pam na allwn fynd â'r teitl," ychwanegodd Ollie.
Mae Spencer Harris, sydd bellach wedi derbyn rôl Is-Lywydd gyda'r clwb, yn gobeithio mai megis dechrau mae taith Wrecsam i fyny'r adrannau.
"Yn fy marn i y peth anoddaf mewn pêl-droed ydi cael dyrchafiad o'r National League gan mai dim ond un clwb sydd yn mynd fyny," meddai.
"Da ni wedi dod yn agos dwy neu dair gwaith yn y 10 mlynedd oeddan ni'n rhedeg y clwb.
"Dwi ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd y tymor hwn ond fy ngobaith i yw eu bod yn cael dyrchafiad.
"Ac os ydyn nhw'n cael dyrchafiad yna dwi'n gweld mewn pum mlynedd Wrecsam yn ôl yn Adran Un.
"Efallai ar ôl hynny bydd buddsoddwyr eraill yn dod mewn, a pam lai na all Wrecsam fod yr Abertawe nesaf a mynd i'r Bencampwriaeth ac un diwrnod y freuddwyd o'r Premier League.
"Ond 'da ni yn ffordd hir, hir iawn o hynny."
I Mewn i'r Gôl - Radio Cymru, dydd Sadwrn, 21 Awst, 13:30.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020