3 Llun: Lluniau pwysicaf bywyd Caryl Parry Jones
- Cyhoeddwyd
Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw'r lluniau pwysicaf yn eich bywyd chi?
Yr wythnos yma, Caryl Parry Jones sydd yn rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Dyma dri o'r lluniau sy'n golygu mwyaf i'r gantores, actores a chyflwynwraig.
"Dyma fi'n cwrdd â Jim, fy ŵyr, am y tro cynta ym mis Ionawr 2020. Roedd o'n foment 'love at first sight'! Un o'r eiliadau 'na dydi rhywun byth yn meddwl sy'n mynd i ddigwydd… a dyma fo, y cyntaf o'r genhedlaeth nesa' ac yn werth y byd i gyd yn grwn!"
"Dathlu penblwydd fy nghyfnither Non yn 40 oed yw fy ail lun. Aethon ni o gwmpas rhai o dafarndai gogledd Penfro ac erbyn cyrraedd Tafarn Bessie, roedd yr hwyliau'n uchel! Steff yw un o fy ffrindiau gorau a mae 'na bwynt yn dod bob tro pan 'dan ni'n cyfarfod pan ma' un ohonon ni'n deud rhywbeth a 'na'i diwedd hi… sâl yn chwerthin! Non dynnodd hwn heb i ni wybod a ma'n un o'm hoff luniau erioed a wastad yn 'neud i mi giglo."
"Llun weddol ddiweddar yw fy llun olaf. Cafodd hwn ei gymryd ar Sul y Tadau 2021 - cafodd Miriam y syniad ysbrydoledig bod y plant i gyd yn gwisgo (ac ymddwyn!) yn union fel Myf (fy ngŵr) drwy'r dydd. Fel y gwelwch chi, roedd o'n llwyddiant ysgubol! Haha!"