3 Llun: Lluniau pwysicaf bywyd Iolo Williams
- Cyhoeddwyd

Mewn cyfres newydd, mae Cymru Fyw yn gofyn i rai o enwogion Gymru ddewis tri llun; eu lluniau mwyaf nodedig neu luniau sy'n eu cyfleu nhw fel person. Ydych chi erioed wedi meddwl am y tri llun sy'n eich cynrychioli chi?
Mae wedi teithio'r byd yn ystod ei yrfa, gan weld rhai o anifeiliaid prinnaf y byd, ond pa luniau dewisodd y cyflwynydd teledu a'r arbenigwr natur Iolo Williams?

"Cymerwyd y llun yma pan oeddwn i'n cerdded mynyddoedd Eryri yn y gaeaf. Pan dwi angen llonyddwch ac amser i feddwl, bydda i'n anelu tuag at yr ucheldir, ac yn enwedig yr ardaloedd hynny lle does bron neb arall yn mynd."

Iolo yn dal y darian
"Llun o dîm pêl-droed ysgol gynradd Llanwddyn a enillodd gynghrair gogledd Maldwyn yn 1973 yn erbyn ysgolion llawer mwy o faint. Roedd yn rhaid inni ennill y gêm olaf, i ffwrdd o gartref, yn erbyn y ffefrynnau, Ysgol Meifod.
"'Na i byth anghofio cerdded allan ar y cae a gweld bod cannoedd o bobl Llanwddyn wedi dod mewn ceir, loriau a faniau i gefnogi'r tîm. Enillon ni 4-0!"

Iolo a'i feibion - Dewi a Tomos, a'i wraig - Ceri
"Y teulu. Dwi'n angerddol am fyd natur, cefn gwlad, yr iaith, ein timau rygbi a phêl-droed, ond dyma'r peth pwysicaf oll."
Hefyd o ddiddordeb: