Carcharu dyn am yr eildro am gael lluniau anweddus o blant
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd wedi ei garcharu am yr eildro am fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Cafodd Calvin George Hodgson, 35, ei arestio yn dilyn Ymchwiliad Javelin gan Heddlu Gwent.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Hodgson wedi ei garcharu yn 2018 am droseddau tebyg.
Ddydd Mawrth, cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar.
Roedd wedi cyfaddef i dri chyhuddiad o feddiannu llun anweddus o blentyn mor ifanc â phump oed, ac un achos o dorri gorchymyn atal niwed rhywiol.
'Cam-drin mwyaf echrydus'
Clywodd y llys fod yr heddlu wedi dod o hyd i ffôn Samsung du Hodgson yn ystod cyrch yng Nghasnewydd ym mis Gorffennaf, ond ni roddodd fynediad i'r ddyfais i'r swyddogion.
Dangosodd dadansoddiad fforensig ddelweddau anweddus o blant ar y ddyfais, gan gynnwys 14 delwedd llonydd a delwedd symudol dwy awr a hanner o hyd - pob un yn y Categori A, y categori gwaethaf.
Daeth swyddog hefyd o hyd i 15 delwedd Categori B ac wyth delwedd Categori C.
Canfu'r heddlu hefyd bod Hodgson wedi bod yn chwilio am y delweddau a bod meddalwedd ar y ffôn ar gyfer "glanhau" y ddyfais.
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams: "Roeddent yn ddelweddau yn y categori mwyaf difrifol.
"Y tu ôl i'r delweddau hynny mae yna blant go iawn sy'n destun y cam-drin mwyaf echrydus."
Cafodd Hodgson ei garcharu am ddwy flynedd yn 2018 ar ôl ei gael yn euog o feddu ar ddelweddau anweddus.
Clywodd y llys mai dyma'r eildro iddo dorri gorchymyn atal niwed rhywiol hefyd. Cafodd orchymyn o'r newydd a fydd yn para 10 mlynedd.