Ymchwiliad Covid yr Alban yn rhoi pwysau ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion yn wynebu galwadau newydd am ymchwiliad Covid sy'n benodol i Gymru yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth yr Alban y byddan nhw'n gweithredu ymchwiliad yno.
Mae gwrthbleidiau yng Nghymru wedi bod yn galw am ymchwiliad sy'n edrych yn benodol ar sut cafodd y pandemig ei ddelio ag yng Nghymru am fisoedd.
Mynnodd Prif Weinidog Cymru bod ymchwiliad ar gyfer y DU i gyd yn fwy addas, ac nad yw'n dymuno gweld "ymchwiliadau croes" ar gyfer Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried cynnig Llywodraeth yr Alban ochr yn ochr â'n hymgysylltiad parhaus â Llywodraeth y DU ar fanylion yr ymchwiliad pedair gwlad.
"Rydym yn ceisio ymrwymiad y bydd yr ymchwiliad pedair cenedl yn ymdrin yn gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru."
Yn ystod cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon y byddai ymchwiliad yr Alban "yn edrych ar yr holl faterion sydd o dan reolaeth y llywodraeth ddatganoledig sy'n berthnasol i sut gafodd yr ymateb i'r pandemig ei weithredu".
Mae'r ymchwiliad, oedd yn ymrwymiad ym maniffesto'r SNP, i fod i gychwyn cyn diwedd y flwyddyn ac mae trafodaethau'n digwydd i benodi barnwr i'w gadeirio.
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi mynnu mai ond ymchwiliad ar gyfer y DU i gyd "fyddai gyda'r capasiti a'r nerth i oruchwylio natur cyd-gysylltiedig y penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar draws y pedair cenedl".
Bydd ymchwiliad y DU yn dechrau gwanwyn nesaf ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais bod "penodau penodol o'r ymchwiliad yn delio'n unig gyda phrofiadau pobl yng Nghymru".
Ond yn dilyn cyhoeddiad Ms Sturgeon, mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies wedi galw ar Mr Drakeford i "newid ei feddwl".
"Mae Prif Weinidog yr Alban - fel Prif Weinidog y DU - wedi gwneud y peth cywir wrth gyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus sy'n edrych ar ymateb y llywodraeth i'r pandemig," meddai Mr Davies.
"Yn anffodus yng Nghymru, mae Llafur a'r Prif Weinidog wedi ceisio atal y fath yma o graffu, tryloywder a chyfrifoldeb ac mae'n sefyllfa annerbyniol sydd methu parhau."
'Angen ymchwiliad yng Nghymru'
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth nad oes gan Lywodraeth Cymru "unrhyw esgus" i beidio â dilyn arweiniad yr Alban, yn annog gweinidogion yng Nghaerdydd i "gymryd cyfrifoldeb" am eu gweithredoedd "da a drwg".
"Fel y dylen nhw wedi gwneud, gweithredodd Cymru'n annibynnol mewn nifer o feysydd yn ystod y pandemig, a gyda chymaint o adrannau polisi perthnasol wedi'u datganoli, a chymaint o benderfyniadau wedi eu cymryd yng Nghymru, mae angen ymchwiliad ar gyfer Cymru'n benodol.
"Bydd y golled bywyd, yn ogystal â'r golled o ryddid, o addysg, a'r effaith economaidd gref yn pwyso'n drwm arnom ni am flynyddoedd i ddod. Mae'n rhaid i ni edrych ar beth ddigwyddodd mewn manylder, ac yn gyhoeddus, i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol."
Mewn datganiad gan grŵp Bereaved Families for Justice Cymru dywedon nhw fod "y penderfyniad yn yr Alban ond yn atgyfnerthu'r angen i Mark Drakeford gynnal ymchwiliad penodol yng Nghymru a byddai unrhyw beth llai o Lywodraeth Cymru'n peri risg i fywydau.
"Mae Cymru wedi dioddef colled bywyd enfawr o ganlyniad i Covid-19 ac fel y teuluoedd sydd wedi cael eu gadael tu ôl, rydyn yn teimlo ein bod yn haeddu'r un lefel o archwilio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021