Comin Greenham: Y chwiorydd o Gymru heriodd Thatcher a Reagan
- Cyhoeddwyd
Mae mis Medi eleni yn nodi 40 mlynedd ers i ferched orymdeithio o Gymru i safle RAF Comin Greenham yn ne Lloegr, ble roedd arfau niwclear yn cael eu cadw.
Roedd yr orymdaith yn ymateb bolisïau arfau niwclear Llywodraethau Prydain a'r Unol Daleithiau, a oedd dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher a Ronald Reagan ar y pryd. Trodd yr orymdaith i fod yn ymgyrch hir-dymor yn erbyn arfau niwclear, ac bu menywod yn protestio ar y safle o 1981 i 2000.
I nodi hynny mae rhaglen ddogfen arbennig yn cael ei darlledu ar BBC1 Cymru am 21:00 ar dydd Mercher 25 Awst o'r enw Mothers, Missiles and the American President.
Mae'r rhaglen yn rhoi sylw arbennig i'r dair chwaer Brinkworth o Porth yn y Rhondda - Susan, Christine a Lesley - a wynebodd garchar oherwydd eu safiadau.
Ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ar ddydd Mawrth 24 Awst (58 munud 35 eiliad i fewn), bu Gwenllian Grigg yn siarad gyda Catryn Ramasut, cynhyrchydd y rhaglen, a Meg Elis a oedd yn ymgyrchu ar Gomin Greenham yn yr 80au.
"Wrth i ni ddatblygu syniad y rhaglen fe 'nathon ni droi at gyfryngau cymdeithasol i chwilio am straeon," meddai Catryn, "achos mae 'na filoedd o fenywod 'di bod i Greenham Common, ac mae ganddyn nhw i gyd hanesion a phrofiadau unigryw.
"Nath rhywun ofyn i ni 'ydych chi wedi clywed am y chwiorydd yma?', ac wedyn wnaethon ni siarad efo nhw a chlywed i'w hanes nhw.
"Roedd y chwiorydd Brinkworth yn rhan o deulu mawr o Porth yn y Rhondda. Roedd 'na wyth ohonyn nhw i gyd - un brawd a saith chwaer.
"Roedd yna bedair chwaer a aeth i'r carchar, ond doedd un methu bod yn rhan o'n rhaglen ni.
"Ond mae yn eitha' anghredadwy bod yna bedair chwaer mor dedicated i'r achos bod nhw'n fodlon mynd i'r carchar."
Herio Ronald Reagan
Yn wir, fe wnaeth y chwiorydd gyrraedd blaen y papurau newydd am geisio herio'r Arlywydd Reagan yn uniongyrchol.
"Hwnna oedd siawns olaf nhw i stopio nhw ddod ag arfau niwclear i Greenham Common," esboniai Catryn.
"Cafon nhw eu perswadio i gynrychioli [sefydliadau] Women for Life on Earth a'r Greenham Common Peace Camp mewn llys yn America. Aeth Christine efo'i babi wyth mis oed i America ar gyfer hyn."
Mae'r awdur ac ymgyrchydd iaith, Meg Elis, yn cofio'r cyfnod yn glir.
"O'dd 'na gymaint o ferched yno," meddai Meg. "Roedd y sefydliad milwrol yno yn filltiroedd o hyd ac mi roedd 'na wahanol wersylloedd gan y merched o gwmpas y perimedr - rhyw naw milltir i gyd.
Grym gwraig 'gyffredin'
"Doedden ni ddim yn teimlo bod ni mewn rhyw sefyllfa o rym - gwragedd tŷ cyffredin, mamau cyffredin, ac yn y rhaglen [Mothers, Missiles and the American President] 'nath un o'r merched ddisgrifio ei hun fel 'jyst gwraig tŷ cyffredin'.
"Wel dwyt ti ddim 'jyst' yn wraig tŷ, neu 'jyst' yn fam, achos os 'da chi'n rhedeg tŷ a magu teulu mae gennych chi gymwys i redeg gwlad o faint canolig... rhyddhau y grym sydd gan y merched 'cyffredin'."
Un protest oedd wedi ei threfnu gan y merched i ddechrau, ac doedd dim bwriad o gwbl i aros yno am 19 mlynedd, fel esboniai Meg.
"Y syniad dwi'n meddwl oedd i gerdded o Gaerdydd i Comin Greenham yn Berkshire i gael sgwrs efo'r Gweinidog Amddiffyn, ond fe wrthododd o wrth gwrs."
Mae Catryn Ramasut yn credu ei bod hi'n bwysig cadw atgofion y protestwyr yn fyw, a'u bod yn berthnasol hyd heddiw.
"Da ni'n cymryd yn ganiataol bod merched oed ni'n gyfarwydd efo'r stori, ond dydi'r genhedlaeth iau ddim yn gyfarwydd efo'r hanes. Felly oedden ni eisiau codi ymwybyddiaeth i bobl fel Extinction Rebellion sy'n protestio heddiw, bod 'na fenywod wedi bod o'u blaen nhw yn sefyll fyny dros achosion.
"Mae 'na gymaint o straeon allan yna - roedd merched ifanc yn mynd yna gan redeg i ffwrdd o'u perthnasau ac yn 'darganfod eu hunan' fel ma nhw'n dweud."
Perthynas gyda'r heddlu yn suro
Roedd Catryn yn dweud bod natur y berthynas rhwng yr heddlu a'r menywod wedi newid dros amser.
"Ar y cychwyn fe roedd 'na berthynas dda rhwng yr heddweision a'r menywod, roedden nhw'n garedig efo nhw, gofalu amdanyn nhw a rhoi lifft i nhw o'r draffordd lawr i Greenham.
"Ond wedyn wrth i bethau ddatblygu ac wrth i'r arfau niwclear ddod yn agosach ac wrth i'r llywodraeth benderfynu bod angen stampio lawr ar y protestiadau 'ma, fe ddechreuodd o fynd yn lot mwy bygythiol.
"Daeth y bailiffs yn ddyddiol i dynnu y pebyll i lawr, mynd â'u heiddo nhw mewn ffordd eitha' treisgar. Felly roedd y teimlad yna yn yr 80au cynnar wedi mynd o ddrwg i waeth - ond roedd y menywod yn benderfynol o aros, ac roedd eu haberth personol nhw'n anghredadwy."
'Nid rhywbeth pell i ffwrdd yw gwleidyddiaeth'
Roedd digwyddiadau Comin Greenham yn sbardun i lawer o fenywod ymwneud mwy â gwleidyddiaeth, yn ôl Meg Elis.
"Dwi'n meddwl bod o wedi troi llawer o ferched oedd ddim wedi meddwl am eu hunain yn bobl gwleidyddol o'r blaen, yn wleidyddol. Ac fe aeth 'na lawer i fewn i wleidyddiaeth o bob math - rhai wedi dod yn Aelodau Seneddol ac eraill wedi gweithredu mewn ffyrdd gwahanol.
"Y tu hwnt i'r mudiad heddwch hefyd - mae rhywun yn meddwl am merched yn cefnogi'r glowyr adeg cyfnod y streic."
"Ac mae'n cymryd rhywbeth fel hyn (arfau niwclear) i sylweddoli mai nid rhywbeth pell i ffwrdd ydy gwleidyddiaeth, mae'n effeithio ar ei bywyd ni.
"O'n i'n sicr yn teimlo hyn am Greenham - o'n i'n fam ifanc efo dau o blant ar y pryd, ac o'n teimlo ar un llaw y gwnewch chi rywbeth i amddiffyn eich plant, ond ar y llaw arall ac ar yr un pryd 'da chi'n teimlo 'be alla i neud?'. Y ddeuoliaeth yna yrrodd fi a llawer o rai eraill i wneud rhywbeth."
Doedd Meg methu aros yn Greenham am gyfnodau hir, ond fe adawodd y safle dipyn o argraff arni.
"Oedd fy nau blentyn hyna' yn ifanc iawn ar y pryd, ac o'n i'n gweithio llawn amser, felly dim ond ar benwythnosau a chyfnodau byr o'n i yno. Ond mae'n od sut mae cyfnodau byr felly wedi gadael gymaint o argraff - roedd gymaint o brofiadau dwys mewn cyn lleied o amser, dyna pam dwi'n meddwl fod o wedi aros yn y cof.
Felly, all protestiadau tebyg i Comin Greenham ddigwydd eto? "Fe all yn hawdd," meddai Meg, "ac fe all y cysylltiadau fod yn well oherwydd doedd 'na ddim ffonau symudol ar y pryd.
"Ond eto oedd o'n rhyfeddol sut oedd y merched yn cysylltu a'i gilydd. Efo cyfryngau cymdeithasol heddiw mae mwy o bethau cas yn cael eu dweud, am nad ydy pobl yn gweld ei gilydd wyneb yn wyneb.
"Ond roedd bod yno yn gorfforol ar y pryd yn peth gadarnhaol, er gwaetha'r anghysur a'r gwrthdaro yno."
Hefyd o ddiddordeb: