Pobl gogledd Cymru'n cyfrannu'n 'hael' at ffoaduriaid Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn gadael nwyddau ar gyfer y ffoaduriaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn ardal Bangor wedi bod yn casglu nwyddau ar gyfer y ffoaduriaid sy'n cyrraedd Prydain o Afghanistan

Mae pobl o ogledd Cymru wedi bod yn cyfrannu pob math o bethau - o siampŵ i bast dannedd - at apêl i roi cymorth i'r ffoaduriaid fydd yn cyrraedd Prydain o Afghanistan.

Bydd y deunyddiau sydd wedi eu casglu yn cael eu cludo i Fanceinion y penwythnos hwn i'w dosbarthu.

Mae Gwesty'r Dinorben yn Amlwch yn ganolfan gasglu ar Ynys Môn. Dywedodd Candy Farrell sy'n gweithio yno wrth BBC Cymru Fyw bod pobl leol wedi bod yn hynod o garedig.

"Mae Camre Amlwch wedi dechre hel pethau at ei gilydd, mae'r Dinorben yn gyfarwydd i bawb so mae'n le da i bobl ddod yma, i ddod â phethe iddyn nhw," meddai.

"Pob math o siampŵs… pethau i blant… pethau 'molchi - pethau mae pobl eu hangen jyst i fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Candy Farrell bod pobl wedi bod yn garedig iawn

Ychwanegodd: "Mae Amlwch yn lle os oes rhywbeth yn digwydd mae pobl yn dod at ei gilydd ac mae o'n bwysig bod pawb yn dod at ei gilydd i drio, hyd yn oed os ydyn nhw yn gwario punt ar fotel siampŵ... mae o'n gyfraniad i'r achos."

Draw ym Mangor dros y dyddiau diwethaf mae pobl wedi bod yn cyfrannu hefyd.

Dywedodd Catrin Wager, sy'n gynghorydd lleol, bod pobl yn hael iawn yma yn ogystal.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Catrin Wager fod pobl yr ardal yn "hael iawn"

"Ges i'n synnu blynyddoedd yn ôl pa mor hael ydy pobl yr ardal yma a pha mor barod i helpu," meddai.

"Mae hwn wedi dangos unwaith eto bod pobl yn yr ardal yma yn gefnogol iawn.

"Andros lot o stwff wedi dod i mewn a gwir gobeithio fedrwn ni wneud gwahaniaeth i helpu i groesawu pobl sydd yn cyrraedd yma o sefyllfa mor ofnadwy.

"Elusen o'r enw Care for Calais sydd yn cydlynu hyn felly mynd â nhw atyn nhw fyddan ni a 'dan ni yn deall bod 'na hwb ym Manceinion ac yna yn fanno byddan nhw'n gobeithio eu dosbarthu nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nwyddau megis cewynnau a siampŵ wedi cael eu casglu

Pynciau cysylltiedig