Heddlu'n dal i holi dau yn achos marwolaeth Pen-y-cae
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i holi dau berson ynglŷn â marwolaeth dyn mewn pentref ger Wrecsam.
Cafodd yr heddlu gael eu galw i ddigwyddiad yn ardal Cristionydd ym Mhen-y-cae ar 23 Awst, a bu farw dyn yn ei 50au yn ddiweddarach.
Cafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn wreiddiol, ond ddydd Mercher, cafodd un o'r tri ei ryddhau heb gyhuddiad.
Mae ditectifs yn parhau i holi'r ddau arall ar ôl derbyn estyniad gan ynadon i'w cadw yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n dal i apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021