Teyrnged i fenyw 23 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 23 oed o Sir Gaerfyrddin wedi marw yn yr ysbyty ddyddiau ar ôl bod mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro.
Bu farw Beca Mai Richards, o bentref Llangain, mewn ysbyty yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Cafodd ei chludo yno mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei Vauxhall Corsa a lori sment ar A478 yn ardal Penblewin, ger Arberth tua 17:00 ddydd Gwener, 20 Awst.
"Rydym wedi ein chwalu'n llwyr gan golled Beca," medd ei theulu mewn teyrnged.
"Roedd hi'n ferch, chwaer, ffrind ac athrawes llawn cariad a charedigrwydd ac yn un sydd o hyd wedi gofalu dros eraill.
"Rydym yn ymfalchïo y gwireddwyd dymuniad Beca, fel ei chymwynas olaf, i fod yn rhoddwr, er mwyn cynnig bywyd gwell i eraill.
"Fel teulu, hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig yr Uned Gofal Dwys ac Ambiwlans Awyr Cymru, am eu cefnogaeth a gofal dros y dyddiau diwethaf. Ein dymuniad nawr yw cael amser i alaru'n breifat."
Mae swyddogion arbenigol Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi cefnogaeth i'r teulu.