Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 27 oed yn Shotton

  • Cyhoeddwyd
Shotton

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes 27 oed yn Shotton, Sir y Fflint.

Cafodd corff Jade Ward ei ganfod ar Chevrons Road yn y dref fore Iau.

Mae disgwyl y bydd Russell Norman James Marsh, 29 oed o Shotton, yn ymddangos o flaen ynadon ddydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.