Rhai plant dros 12 oed i gael cynnig brechlyn Covid
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gynnig brechlyn covid-19 i rai plant a phobl ifanc dan 18 oed yn dilyn cyngor newydd gan arbenigwyr.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) bellach yn awgrymu y dylid cynnig y brechlyn Pfizer i unrhyw blant dros 12 oed sydd yn debygol o fod yn fwy agored i niwed yn sgil lledaeniad yr haint.
Yn ogystal, bydd pobl ifanc 17 oed sydd o fewn tri mis o droi'n 18 a phlant sy'n byw gydag unigolion bregus hefyd yn cael cynnig pigiad.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Bydd y GIG yn gweithio'n gyflym i nodi'r bobl ifanc hyn ac i gynnig y brechlyn iddynt."
Ar hyn o bryd dydi'r JCVI ddim yn argymell i bob plentyn dros 12 oed i gael eu brechu, gan eu bod nhw'n aros tan fod rhagor o ddata ar gael.
Bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu yn gyson, ond mae'n debyg nad yw cyflenwadau yn ffactor yn hynny.
Dywedodd Dr Gill Richardson, un o brif swyddogion y rhaglen frechu yng Nghymru, y bydda nhw'n "gweithio'n agos gyda'r byrddau iechyd" er mwyn deall yn union pwy fydd yn gymwys ar gyfer y brechiadau yma.
"O ran plant dan 16 oed, mae hi'n debygol y cawn nhw gynnig drwy eu meddyg teulu, neu wasanaethau ymgynghorol ysbytai. Ar gyfer y plant hŷn wedyn, mae hi'n bosib y bydd modd defnyddio'r canolfannau brechu torfol," meddai.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd mewn datganiad: "Yn dilyn misoedd o drafod ac ystyried tystiolaeth, mae JCVI yn argymell y dylid cynnig brechiad COVID-19 i blant a phobl ifanc 12-15 oed sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol penodol sy'n peri risg o COVID-19 difrifol iddynt.
"Yn y bôn, mae'r grŵp cleifion eithriadol o agored i niwed yn glinigol bellach yn cynnwys pobl ifanc 12 ac yn hŷn.
"Gan fod digwyddedd a difrifoldeb Covid-19 yn isel ymhlith plant, ac oherwydd y materion diogelwch a gofnodwyd, nid yw JCVI ar hyn o bryd yn cynghori brechu pob plentyn a pherson ifanc arall sy'n iau na 18 oed fel mater o drefn.
"Rwyf yn ymwybodol y bu galw am frechu plant i'w hatal rhag cael syndrom Covid hir. Mae cyfraddau Covid ymhlith plant yn gymharol isel ac mae gwybodaeth gyfyngedig o hyd am effeithiau uniongyrchol cyffredinol y feirws arnynt.
"Fodd bynnag, mae astudiaethau'n dod i'r amlwg sy'n dangos bod y risg hon yn isel iawn mewn plant, yn enwedig o'i gymharu ag oedolion, ac yn debyg i gymhlethdodau iechyd eilaidd heintiau feirysol anadlol eraill mewn plant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021