Galw am weithredu yn dilyn sawl achos o drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae angen "gweithredu hirdymor" i fynd i'r afael a chynnydd mewn achosion o drywanu, yn ôl AS Caerdydd.
Daw ar ôl i dri pherson gael eu hanafu mewn achosion yn ymwneud â chyllyll o fewn 24 awr yn y brifddinas.
Cafodd dyn 18 oed ei anafu yn oriau man dydd Sadwrn, a dau arall eu hanafu mewn digwyddiad arall ddydd Sul.
Dywedodd Jo Stevens AS bod y digwyddiadau'n "bryderus iawn", ac yn cyd-fynd a chwymp yn nifer yr heddweision ar y strydoedd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
Achosion Caerdydd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad yn Sgwâr Callaghan fore Sadwrn.
Mae swyddogion yn dal i ymchwilio i ail achos ger y castell ddydd Sul ble cafodd dau ddyn eu hanafu.
Nid yw'r heddlu'n credu bod cysylltiad rhwng y digwyddiadau, ond maen nhw'n rhybuddio am "ganlyniadau ofnadwy" sy'n dod gyda throseddau'n ymwneud a chyllyll.
Mae lefelau troseddau o'r fath wedi cynyddu yng Nghymru.
Yn siarad ar Radio Wales, dywedodd Ms Stevens bod angen cymorth gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r broblem.
"Rydyn ni wedi gweld degawd ble mae troseddau cyllyll wedi cynyddu, ac ers 2010 rydyn ni wedi colli 22,000 o heddweision o strydoedd Cymru a Lloegr", meddai.
Dywedodd bod cyfuniad o gwymp o 15% mewn niferoedd swyddogion, a'r nifer isaf ar y strydoedd ers 1981 wedi creu "storm berffaith".
"Mae pawb yn gwybod bod gyda ni broblemau gyda chyffuriau a gangiau'n manteisio ar blant a phobl ifanc, sy'n cynyddu trais a'r defnydd o gyllyll.
"Mae angen gweithredu hirdymor gan Lywodraeth y DU i atal troi plant a phobl ifanc yn droseddwyr - dyna sydd wrth wraidd y cynnydd."
Toriadau i wasanaethau
Ychwanegodd mai cyfleoedd ac addysg i bobl ifanc sydd eu hangen er mwyn eu hatal rhag troi at droseddu.
"Rydyn ni wedi gweld toriadau i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru a Lloegr dros y ddegawd ac mae goblygiadau i hynny.
"Efallai nad ydyn nhw'n cael eu gweld yn syth ond wedi 10 mlynedd o gynni ariannol a thorri cyllidebau, mae pobl yn cael eu denu i droseddu sy'n gyrru'n trais yma."
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2021
- Cyhoeddwyd28 Awst 2021