Llofruddiaeth Parc Bute: Agor a gohirio cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor yn achos dyn 54 oed a fu farw 16 diwrnod ar ôl ymosodiad honedig arno ym Mharc Bute yng nghanol Caerdydd.
Clywodd y gwrandawiad bod Dr Gary Jenkins wedi marw yn yr ysbyty ar ôl dioddef anaf difrifol i'w ben.
Mae tri pherson wedi cael eu cyhuddo o'i lofruddio.
Mae'r cwest wedi ei ohirio hyd nes i'r broses gyfreithiol ddod i ben.
Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod Dr Jenkins, oedd yn byw yng Nghaerdydd, wedi ei ganfod yn anymwybodol yn y parc am 04:00 ar 20 Gorffennaf.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ac fe ddaeth i'r amlwg yno ei fod wedi cael anaf difrifol i'w ymennydd.
Roedd hefyd ag anafiadau i'w wyneb a sawl anaf i'r pen.
Dywedodd swyddog y crwner, Emma Mathias bod Dr Jenkins wedi cael llawdriniaeth yr un diwrnod er mwyn ceisio trin yr anafiadau.
"Gwaethygodd ei gyflwr niwrolegol a daeth yn amlwg bod hwn yn anaf i'w ymennydd nad oedd modd ei oroesi," meddai.
Bu farw ar 5 Awst mewn ward gofal dwys "wedi trosglwyddiad i ofal lliniarol" ac mae archwiliad post-mortem wedi dod i'r casgliad bod yr anaf wedi digwydd yn sgil taro'r pen.
Cafodd y cwest ei ohirio tan ddiwedd yr achos llys yn erbyn tri diffynnydd sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth - Jason Edwards, 25 oed o ardal Glan-yr-afon, Lee William Strickland, 36 oed a heb gyfeiriad parhaol, a merch 16 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol.
Gan gydymdeimlo gyda theulu Dr Jenkins, dywedodd Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Rachel Knight y bydd yna adolygiad o'r amgylchiadau ar 26 Mai 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2021