Croesawu cyhoeddiad ar fesuryddion CO2 mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae meddygon sy'n rhan o'r ymgyrch "awyr iach" wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu mesuryddion carbon deuocsid mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Bydd y llywodraeth yn darparu 30,000 o'r mesuryddion carbon, ynghyd â 1,800 o beiriannau diheintio oson, ar gost o £6m.

Mae'r mesuryddion carbon deuocsid yn medru dangos pryd mae ansawdd yr aer yn dirywio o fewn ystafell, a phan mae diffyg awyr iach.

Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos y gall Covid-19 aros yn yr aer am hyd at dair awr.

'Awyrgylch saffach'

Yn ôl Dr Rhys Thomas, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, mae ein dealltwriaeth o'r feirws bellach yn golygu bod "rhaid i ni newid fel ni'n amddiffyn yn ei erbyn".

"Os ydy lefel carbon deuocsid yn uchel mewn ystafell, mae'n dangos hefyd bod lefel yr aer newydd yn ddiffygiol. Mae'n rhaid cadw lefel y carbon deuocsid dan 700ppm," esboniodd.

Fe fydd y peiriannau diheintio oson, sydd wedi cael eu datblygu gan Brifysgol Abertawe, hefyd yn cael eu defnyddio i lanhau ystafelloedd mewn ysgolion a cholegau.

Mae Dr Eilir Hughes yn feddyg teulu ym Mhen Llŷn sydd wedi bod yn tynnu sylw ers sbel at bwysigrwydd awyru llefydd dan do er mwyn atal Covid rhag ymledu.

"Mae dod â mesuriadau fel hyn i mewn yn helpu athrawon i sicrhau bod yr awyrgylch y dosbarthiadau yn saffach," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Llynedd fe wnaeth Dr Rhys Thomas ddatblygu peiriant anadlu i drin cleifion Covid-19

Mae Cyngor Ynys Môn eisoes wedi bod yn defnyddio mesuryddion carbon deuocsid ers bron i flwyddyn.

Yn ôl arweinydd y cyngor, Llinos Medi Huws, mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i'w groesawu er ei fod yn dod braidd yn hwyr yn y dydd.

"Pam mae o wedi cymryd cyn hired, dwi ddim cweit yn deall," meddai.

"Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi gwthio yn bersonol, a dwi'n falch ei fod yn cael ei dderbyn ar draws y wlad."

'Llai o gyfyngiadau'

Er yn croesawu'r buddsoddiad, mae Dr Rhys Thomas wedi cwestiynu pam nad yw golau uwchfioled UVC yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth ar draws Cymru.

"Mae'r WHO, y CDC, a'r EDC i gyd yn cefnogi hepafilters a UVC," meddai. "Mae'r dechnoleg yma yn rhwydd ac mae'n saff."

Dywedodd Laura Doel, Cyfarwyddwr Undeb NAHT Cymru bod y cyhoeddiad yn "newyddion da" ac yn dilyn pwysau gan yr undebau addysg am weithredu brys.

Serch hynny, mae hi wedi galw am "arweiniad clir" gan Lywodraeth Cymru ar beth i'w wneud os ydy ansawdd yr aer yn rhy wael mewn ystafelloedd dosbarth.

Disgrifiad,

Beth yw pwysigrwydd awyru wrth daclo Covid-19?

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gobeithio cyflwyno'r offer newydd cyn gynted a bo modd yn ystod tymor yr hydref, er nad oes amserlen wedi ei phennu.

"Rwy'n falch y gall dysgwyr ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd yr hydref hwn gyda llai o gyfyngiadau nag a fu ers misoedd lawer," meddai'r gweinidog addysg Jeremy Miles.

"Bydd y buddsoddiad hwn mewn peiriannau monitro carbon deuocsid yn helpu i wella ansawdd aer, a bydd y peiriannau diheintio yn caniatáu i'r ystafelloedd dosbarth gael eu defnyddio i addysgu yn y ffordd arferol eto yn gyflymach.

"Mae hyn yn cefnogi ein nod cyffredinol o sicrhau y gall dysgwyr barhau i ddysgu gyda'u hathrawon a'u ffrindiau."

Wrth ymateb i gynlluniau'r llywodraeth, dywedodd Sian Gwenllian, aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru:

"Mae cyngor gwyddonol wedi tynnu sylw ers tro at bwysigrwydd ansawdd aer wrth gyfyngu ar drosglwyddo coronafeirws - rydym wedi bod yn galw am fwy o arweiniad ac adnoddau i golegau ysgolion a phrifysgolion ar bwnc awyru ers y llynedd.

"Mae'r ddarpariaeth o declynnau monitro CO2 i sefydliadau addysgol, tra'n hwyr, i'w groesawu, ac mae'n cyd-fynd â gwledydd eraill.

"Mae'n bwysig bod y mesurau a ddefnyddiwn yn cyd-fynd â'r canllawiau gwyddonol diweddaraf ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i sefydliadau addysgol ar ddefnyddio teclynnau fel systemau diheintyddion oson.

"Mae cyflwyno peiriannau diheintio oson yn fwy dadleuol a dweud y lleiaf a rhaid i Lywodraeth Cymru ein sicrhau eu bod yn hollol ffyddiog eu bod yn ddiogel i'w defnyddio cyn eu cyflwyno ar draws Cymru."