Addewid i fonitro effaith Covid wrth ailagor ysgolion
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'r dosbarth ar gyfer blwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi addo monitro effaith dechrau y tymor newydd ar achosion Covid.
Mae plant yn mynd yn ôl i'r ysgol yr wythnos hon mewn rhannau o Gymru, tra bod eraill yn dychwelyd wythnos nesaf.
Bydd mesurau Covid yn seiliedig ar lefelau risg lleol, ond mae penaethiaid wedi dweud bod angen mwy o wybodaeth gan y llywodraeth.
Dywedodd un pennaeth bod ysgolion yn gobeithio am "gymaint o normalrwydd â phosib" ar ddechrau'r drydedd flwyddyn ysgol sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig.
'Bydd mwy o symud yn yr ysgol'
Mae disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ger Maesteg ymhlith miloedd o ddisgyblion fydd yn dychwelyd yn raddol mewn sawl ysgol.
"Bydd na fwy o symud yn yr ysgol lle bydd dysgwyr yn gallu manteisio ar stafelloedd arbenigol ar gyfer eu gwersi, a mynd nôl i'r arfer yna o athrawon yn statig yn eu stafelloedd dosbarth nhw er mwyn cyfoethogi'r dysgu sy'n digwydd," meddai'r pennaeth, Meurig Jones.
Ychwanegodd na fyddai angen gorchuddion wyneb yn y stafell ddosbarth, ond y byddai angen amdanyn nhw ar drafnidiaeth ac mewn coridorau.
Mae disgyblion yn dychwelyd ar adeg pan fo cyfraddau Covid yng Nghymru yn cynyddu, yn enwedig ymhlith pobl iau.
Fe wnaeth plant yn Yr Alban ddychwelyd i'r ysgol bythefnos yn ôl, ac mae hynny wedi ei grybwyll fel bod yn rhannol gyfrifol am gynnydd yn yr achosion yno.
Dywedodd Meurig Jones bod hyn yn bryder.
"Mae e'n gonsyrn ond be mae'n rhaid i ni neud yw i bawb gymryd y cyfrifoldeb yna," meddai.
"Mae angen i ni fod yn ymwybodol o bosib mae hyn yn mynd i effeithio arnyn ni."
'Monitro agos iawn'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd mewn cyfraddau Covid "yn unol i raddau helaeth â'r disgwyliadau o lacio'r cyfyngiadau" tra'n ein hatgoffa bod "y feirws dal gyda ni".
"Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn pan fydd ysgolion yn dychwelyd, ond mae'r cyfraddau brechu uchel yng Nghymru wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng y feirws a'r ysbyty," meddai llefarydd.
Cyn gwyliau'r haf, dywedodd y llywodraeth na fyddai angen grwpiau cyswllt na 'swigod' o fis Medi ymlaen ac na fyddai gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth yn cael eu hargymell.
Mae angen gorchuddion wyneb o hyd ar gyfer disgyblion oedran uwchradd ar drafnidiaeth ysgol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith newydd wythnos diwethaf gan ddweud ei bod yn disgwyl cael "busnes yn ôl yr arfer" mewn ysgolion cyn belled ag y bo modd, ond bod modd i ffactorau lleol ddylanwadu ar hyn.
Mae gan ysgolion tan 20 Medi i addasu eu mesurau.
Ond mae Meurig Jones yn dweud bod angen cysondeb ac eglurder.
"Mae'r fframwaith newydd yn mynd i helpu ni o ran beth i ddisgwyl a beth i gynllunio. I fi mae e bach yn aneglur o ran beth sydd angen gwneud a sut ni'n mynd i wireddu'r canllawiau newydd yma," ychwanegodd.
Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru ddydd Mercher bod 61% o bobl ifanc 16-17 oed o Gymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae'n parhau i annog pobol i dderbyn y cynnig.
'Pryderus'
Mae Nicola Chan Gizzi o Abergele yn fam i chwech o blant gyda'u hoedrannau yn amrywio o 16 i dair oed.
Dywedodd ei bod yn teimlo'n "bryderus" wrth i'w phlant baratoi i ddychwelyd i'r ysgol ac yn pryderu bod "risg uwch ei bod nhw'n dal Covid".
Ychwanegodd y byddai'n well ganddi pe bai nhw'n parhau i fod yn eu swigod gan y byddai'n haws eu rheoli pe bai achosion o'r feirws.
Nid oes rhaid i bobl dan 18 oed hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif bellach, sy'n golygu ei bod yn annhebygol y bydd yn rhaid i grwpiau mawr o blant gadw draw o'r ysgol.
"Dydw i ddim yn hapus gyda'r syniad y gallai ledaenu'n haws ac mae'r rheolau ynysu wedi newid ac rwy'n teimlo y bydd y lledaeniad yn cynyddu pan fydd y plant yn mynd yn ôl i'r ysgol," meddai.
"Rydyn ni wedi ei weld mewn ardaloedd eraill - yn Yr Alban er enghraifft, mae'r nifer o achosion wedi cynyddu ers i blant ddychwelyd i'r ysgol.
"Mae gyda ni rai aelodau oedrannus, bregus yn ein teulu ni ac mae'n anodd iawn.
Ry'n ni ceisio cwrdd yn yr awyr agored a cheisio cadw ein gilydd yn ddiogel - mae'n sefyllfa anodd".
Dywedodd ei merch Anna-Beth, 15, bod ganddi "deimladau cymysg" wrth ddychwelyd i'r ysgol.
"Rwy'n credu bod ein hysgol wedi penderfynu ceisio cael popeth yn ôl i normal gymaint ag sy'n bosib," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at weld ei ffrindiau a chymdeithasu wyneb yn wyneb, a hefyd at ddechrau ar ei phynciau TGAU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021