Ailgyhoeddi Luned Bengoch a chlasuron eraill

  • Cyhoeddwyd
LlyfrauFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

"Dyw stori dda ddim yn dyddio ac mae'n bwysig cyflwyno clasuron llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr."

Dyna meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru newydd ailgyhoeddi tri llyfr o'r gorffennol mewn cyfres a elwir yn Gorau'r Goreuon.

Wedi ymgynghoriad cyhoeddus y tri llyfr sydd wedi'u dewis yw Dirgelwch y Dieithryn - Elgan Philip Davies, O'r Tywyllwch - Mair Wynn Hughes a Luned Bengoch - Elizabeth Watkin-Jones. Mae'r tri bellach ar werth.

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig fod plant a phobl ifanc heddi yn cael darllen yr hyn sydd wedi rhoi cymaint o foddhad i blant y gorffennol," ychwanegodd Helen Jones wrth siarad â Cymru Fyw.

"Beth amser yn ôl, comisiynodd Cyngor Llyfrau Cymru Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd i gynnal arolwg o lyfrau plant a phobl ifanc ac un o'r argymhellion oedd y dylid ystyried ailgyhoeddi llyfrau poblogaidd Cymraeg neu 'glasuron' o'r gorffennol.

"Aed ati wedyn i ffurfio panel dethol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf roedd gwahoddiad i'r cyhoedd i enwi eu hoff lyfrau plant.

"Be o'n i'n deimlo o'dd ei bod yn bosib i blant brynu llyfrau Saesneg fel Black Beauty a The Railway Children ond doedd y clasuron Cymraeg ddim mewn print."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llyfr Luned Bengoch ei gyhoeddi yn wreiddiol ym 1946 ac yna ym 1983

Cafodd Luned Bengoch ei gyhoeddi yn wreiddiol ym 1946 gan Wasg y Brython, ac yna cafodd y cynnwys ei ddiweddaru gan Hugh D Jones a'i ailgyhoeddi gan Wasg Gomer ym 1983.

Gwasg Gomer hefyd oedd cyhoeddwyr O'r Tywyllwch ym 1991 a Dirgelwch y Dieithryn ym 1993 - y naill yn rhan o gynllun Gwreiddiau a'r llall yn rhan o Gyfres Corryn.

"Mae'r storïau hyn yn fythol wyrdd, ac ychydig iawn o waith golygyddol oedd ei angen arnynt i'w gwneud yn addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd cyfoes.

"'Dydyn ni ddim wedi newid dim ar y cynnwys ond ry'n wedi ystwytho rywfaint ar yr iaith ac ry'n ni hefyd wedi comisiynu cloriau newydd gan dri artist cyfoes sef Efa Blosse-Mason, Chris Iliff a Nia Tudor - dau ohonynt yn enwau newydd i'r maes. Rhan gwbl allweddol o lwyddiant unrhyw gyfrol yw'r clawr," ychwanegodd Ms Jones.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd/Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Siwan Rosser fod pobl yn dueddol o gofio am Lyfr Mawr y Plant a llyfrau T Llew Jones

"Wrth wneud yr arolwg gan ymgynghori gyda phlant ac oedolion roedd hi'n amlwg fod cof pobl yn fyr," meddai Dr Siwan Rosser, "ac yn aml dim ond llyfrau fel Llyfr Mawr y Plant a llyfrau T Llew Jones oedd yn aros yn y cof.

"Roedd llyfrau a oedd wedi gwneud cryn argraff adeg eu cyhoeddi wedi mynd yn angof ac allan o brint ac felly mae'n bwysig bod rhain yn gweld golau dydd eto.

"Mae rhywun yn ymwybodol, wrth gwrs, fod pobl yn ymateb i'r llyfrau rhain heddiw yn wahanol nag oedden nhw ugain mlynedd yn ôl a chyn hynny.

"Wrth ddewis beth i'w gyhoeddi eto mae rhywun yn ystyried pa lyfrau oedd yn werthfawr gan y darllenydd - dydyn nhw ddim yn gorfod bod yn lyfrau sydd uwchlaw llyfrau eraill neu'n sefyll ar wahân."

Dywedodd Morgan Dafydd, sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra ac aelod o banel y detholwyr: "Mae'n siopau llyfrau ar y cyfan yn llawn o lyfrau newydd. A chyn pen dim bydd llyfrau mwy newydd yn cymryd eu lle.

"Weithiau pan fo pobl yn dweud, 'does dim digon o ddeunydd ar gyfer pobl ifanc yn Gymraeg', mae'n hawdd anghofio am bethau gyhoeddwyd y llynedd, heb sôn am y llyfrau gwych gyhoeddwyd flynyddoedd maith yn ôl."

Bydd y Cyngor Llyfrau yn casglu adborth ar y tair cyfrol gyntaf yma yn ystod tymor yr hydref gan obeithio ychwanegu at y gyfres yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig