Y Gynghrair Genedlaethol: Southend 2-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae rhediad gemau diguro Wrecsam yn parhau wedi iddynt sgorio ddwywaith fel ymateb i ddwy gôl Southend.
Fe wnaeth Sam Dalby a Rhys Murphy roi'r tîm cartref ar y blaen o ddwy gôl a hynny o flaen chwe mil o gefnogwyr.
Ond ddwy funud wedi ail gôl Southend roedd foli Jamie Reckord yn y rhwyd a Wrecsam yn ôl yn y gêm.
Ddeuddeg munud yn ddiweddarach roedd Dior Angus wrth law i daro croesiad Tyler French i'r rhwyd gan ddod â'r ddau dîm yn gyfartal.
Mae tîm Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ddegfed yn y gynghrair wedi iddynt ennill un gêm a chael tair gêm gyfartal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021