Cwmni'n toddi hen offer PPE i greu masgiau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Gaerdydd yn rhan o gynllun sy'n toddi hen offer PPE er mwyn creu mygydau newydd.
Mae Thermal Compaction Group (TCG) yn cydweithio gyda chwmni yng Nghaint i droi gwastraff ysbytai yn fasgiau sydd â 65% o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.
Dywed Llywodraeth Cymru bod hwn yn enghraifft o sut y gellir creu economi gylchol a sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2050.
Gall cyrff sector cyhoeddus fel y GIG osod esiampl o ran cyrraedd y nod hwnnw, yn ôl arbenigwr ailgylchu.
'Problem anferthol'
Mae TCG eisoes yn gweithio gyda saith ymddiriedolaeth ysbyty ar draws y DU gan ddefnyddio'r offer cynhesu thermal Sterimelt.
Fe allai'r offer ddatrys y broblem fyd-eang o ddelio gyda gwastraff meddygol y pandemig.
Ar hyn o bryd, mae hen fasgiau, gynau a chyrtens untro'n cael eu llosgi, sy'n creu allyriadau carbon, neu eu tirlenwi.
"Mae'r broblem yn anferthol," medd rheolwr gyfarwyddwr TCG, Mathew Rapson. "Rydym yn defnyddio 55 miliwn o fasgiau'r dydd yn y DU. Ar draws y byd mae'n 129 biliwn o fasgiau, ac mae llawer yn cael eu taflu a'u tirlenwi."
Mae'r offer Sterimelt yn cynhesu'r hen offer i 300 Selsiws, sy'n diheintio pathogenau.
Mae'n cynhyrchu blociau medr o hyd sy'n 99.6% polypropylen, y gellir eu mowldio i gynhyrchu nwyddau fel cadeiriau plastig a bwcedi.
Mae TCG hefyd yn defnyddio'r broses i helpu Llynges America i leihau maint gwastraff ar ei llongau.
Bydd nawr yn danfon blociau polypropylen i gwmni cynhyrchu dillad, Upcycle Plastics Ltd, er mwyn creu masgiau newydd ar gyfer ysbytai o hen wastraff PPE.
Mae 65% o ddeunyddiau'r mygydau, sydd hefyd yn cynnwys gwastraff plastig o'r môr, wedi eu hailgylchu, medd prif weithredwr y cwmni, Linda Ball.
Canlyniad y broses, meddai, yw gostyngiad o 36% mewn allyriadau carbon. Mae hi'n credu bod potensial i'r GIG, fel defnyddiwr mwyaf offer PPE tafladwy'r DU, gael effaith fawr trwy newid i offer wedi'i ailgylchu.
"Problem fwyaf y diwydiant meddygol yw'r defnydd o blastig untro," medd Ms Ball. "Os rydym yn parhau i brynu pethau o China a'i gludo yma, mae maint y defnydd o garbon yn hurt."
Un o heriau ailgylchu masgiau tafladwy, meddai, yw bod rhannau gwahanol, gan gynnwys yr hidlwr, wedi eu gwneud o fathau gwahanol o blastig.
Mae Upcycle Plastics a TCG yn gweithio nawr ar broses newydd i wahanu'r plastigion gwahanol ac yn disgwyl gallu cynhyrchu PPE o'r hen ddeunyddiau "yn y chwe mis nesaf".
Yn ôl Dr Rob Elias, cyfarwyddwr Canolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor, dylid cynhyrchu pob offer PPE mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w hailgylchu.
"Pe tasen ni'n cael sefyllfa ble un defnydd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer masg cyfan, byddai'n gwneud hi'n haws o lawer i'w hailgylchu yn y dyfodol," meddai,
Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bod modd ailgylchu'r polypropylen mewn masg "bum neu chwe gwaith" cyn iddo ddirywio.
"Yr her yw bod y prosesau ailgylchu hyn yn tueddu i fod ar raddfa rhy fach ar y foment... pan fo'r broses gynhyrchu ar raddfa fwy, rydych yn cael arbedion ynni anferthol."
Ond mae Dr Elias yn dweud bod hwn yn "esiampl wych" o'r economi gylchol, sy'n osgoi gwastraffu adnoddau trwy eu haddasu a'u hailddefnyddio.
Prif nod strategaeth Mwy Na Ailgylchu Llywodraeth Cymru yw gwneud economi gylchol "yn realiti" a bod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050.
O'i ffatri yn Nhre-biwt, mae TCG ar hyn o bryd yn ailgylchu 300,000 o fasgiau bob mis, a fyddai fel arall wedi cael eu llosgi neu eu tirlenwi.
Dywed Mathew Rapson bod un bloc plastig 18 cilogram yn cynnwys tua 10,000 o fasgiau.
"Os mae masg yn cyrraedd safle tirlenwi - neu, yn waeth, traethau neu afonydd - mae'n cymryd 450 o flynyddoedd i bydru," meddai.
"Mae'n hurt. Ry'n ni'n taflu'r nwyddau untro 'ma... ond mae'n bosib i'w cadw a'u hail-greu sawl tro."
Mae hynny'n rhywbeth y dylid digwydd yn llawer amlach, yn ôl yr Athro Gary Walpole, cyfarwyddwr Rhaglen Cymunedau Arloesi Economi Cylchol Prifysgol Abertawe.
"Sylfaen yr economi gylchol yw cadw'r holl gynnyrch o fewn y cylch cyn hired â phosib," meddai.
"Mae lot o ynni'n cael ei ddefnyddio wrth greu cynnyrch fel plastig. Yr hira' y gallwch chi gadw'r plastig yna i fynd, trwy ei ailddefnyddio, y lleia' yw'r defnydd o ynni ac adnoddau crai ac felly'r lleia' yw'r allyriad carbon."
Ond mae'r Athro Walpole yn dweud bod hi'n anodd darbwyllo'r sector preifat i ddilyn y fath drywydd ar raddfa eang.
Un ffordd ymlaen, awgryma, yw i Lywodraeth Cymru orchymyn cyrff mawr fel y GIG ac awdurdodau lleol i weithredu newid.
"Mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn prynu lot o nwyddau a gwasanaethau, felly mae'n fan cychwyn da o ran ffordd wahanol o feddwl," meddai.
"Mae'r cwmni arbennig ym [TCG] yn cymryd nwyddau plastig o'r GIG, ble mae niferoedd mawr. Mae modd iddyn nhw felly wneud arbedion trwy gynhyrchu ar raddfa fwy, profi bod y cysyniad yn gweithio a'i gynnig i'r sector preifat."
Gall hefyd fynd i'r afael â'r cynnydd mewn sbwriel ers dechrau'r pandemig, yn ôl Cadwch Gymru'n Daclus.
Dywed yr elusen bod "cynnydd sylweddol ac eang yn yr offer diogelu personol sy'n cael ei adael ar draws y wlad" gan beryglu bywyd gwyllt a iechyd cyhoeddus.
Mae Mathew Rapson yn dweud mai'r diffyg seilwaith yw'r broblem yn hytrach na phlastig ynddo'i hun "ac mae gyda ni un o'r atebion yma yng Nghymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020