'Taflu masgiau wyneb yn niweidiol i'r amgylchedd'
- Cyhoeddwyd
Gallai masgiau wyneb tafladwy fod yn rhyddhau llygryddion cemegol a nano-blastigau i'r amgylchedd, mae ymchwilwyr wedi rhybuddio.
Dywedodd gwyddonwyr fod angen gwell rheoleiddio a gwneud mwy o ymchwil.
Canfu tîm Prifysgol Abertawe fod metelau trwm a ffibrau plastig wedi'u rhyddhau pan gafodd masgiau tafladwy eu boddi mewn dŵr.
Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen ymchwilio mwy i effaith iechyd y cyhoedd.
"Cyn y pandemig, roeddem yn edrych ar leihau'r defnydd o welltiau plastig, lleihau pecynnu, ond nawr rydym yn edrych ar waredu cannoedd a miloedd o'r masgiau hyn," meddai arweinydd y prosiect, Dr Sarper Sarp, o Goleg Peirianneg y brifysgol.
"Mae angen i ni ddidoli ein blaenoriaethau - yn gyntaf oll mae angen i ni ddod dros y pandemig ac amddiffyn ein gilydd ac iechyd y cyhoedd. Yna, yn y cyfamser, mae angen i ni gymryd camau i ddiogelu'r amgylchedd."
Yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, dim ond yn wreiddiol yr oedd gan yr ymchwilwyr ddiddordeb yn yr effaith gwastraff plastig ar ein hamgylchedd.
Ond wrth iddyn nhw brofi mwy a mwy o fasgiau, fe wnaethon nhw ddatgelu mwy o gemegau.
Roedd y llygryddion yn aml yn gysylltiedig â llifynnau a ddefnyddir wrth gynhyrchu'r masgiau, a wneir yn bennaf yn ne Asia, a China yn benodol.
Daeth y tîm o hyd i olion plwm, antimoni a chadmiwm - metelau trwm a all fod yn wenwynig mewn dosau isel.
Dywedon nhw fod y lefelau a ddarganfuwyd yn yr ystod o rannau fesul miliwn neu rannau fesul biliwn.
"Ar raddfa amgylcheddol gyda maint y cynhyrchiad o'r pethau hyn - mae'r cyfan yn cronni," rhybuddiodd Dr Geraint Sullivan, cymrawd trosglwyddo technoleg yn y brifysgol.
Dywedodd fod y metelau trwm a gafodd eu canfod hefyd yn "bio-gronnol", sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael eu tynnu o systemau dyfrol ac maen nhw'n cronni dros amser.
Roedd pob mwgwd yn profi cemegolion trwythol wrth eu boddi.
"Dyna beth sy'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd - er eu bod ar lefelau mor fach, bydd maint y deunydd sy'n cael ei gynhyrchu'n cael effaith ar yr amgylchedd ehangach," ychwanegodd Dr Sullivan.
'Angen i ni eu gwisgo'
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Sarp, sydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar Covid, fod llawer mwy o waith i'w wneud ar y masgiau wyneb.
"Efallai na fydd yn fater mawr nawr ond mae cronni yn broblem y byddwn yn ei hwynebu yn y dyfodol," meddai.
"Mae manteision gwisgo'r masgiau yn enfawr, felly mae angen i ni ddal i'w gwisgo, ond mae angen i ni edrych ar wahanol reoliadau a safoni'r masgiau ac ansawdd y deunyddiau rydyn ni'n eu defnyddio.
"Mae angen i ni edrych ar sut maen nhw'n cael eu cynhyrchu, sut gallwn ni brofi'r rhain, a sut i safoni eu hansawdd."
Dywedodd Dr Sarp gyda'r wybodaeth honno, byddan nhw'n gallu addysgu a hysbysu'r cyhoedd am y masgiau, a sicrhau eu bod yn fwy diogel i unigolion a'r amgylchedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020