Plaid Cymru: 'Byddai'n synhwyrol brechu plant dros 12'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plentyn yn cael ei frechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant bregus dros 12 oed eisoes yn gymwys ar gyfer cael brechiad Pfizer/BioNTech

Mae disgwyl penderfyniad ar frechu plant 12-15 oed ymhen rhai dyddiau.

Ddydd Sadwrn dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru mai y penderfyniad synhwyrol fyddai brechu plant dros 12 oed ond ei fod yn cydnabod nad yw'n benderfyniad hawdd.

Daw ei sylwadau ddiwrnod wedi i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddweud na ddylai plant iach rhwng 12 a 15 oed dderbyn brechlyn yn erbyn Covid-19.

Yn ôl arbenigwyr mae diffyg tystiolaeth i gefnogi rhaglen frechu i blant iach yn y grŵp oedran yma ac maent yn dweud mai ychydig iawn o fudd fyddai rhaglen o'r fath yn ei gael.

Dywed y JCVI nad ydyn nhw yn gyfrifol am ystyried y buddion i weddill cymdeithas - fel yr effaith ar ysgolion a lleihau'r lledaeniad i oedolion.

Maen nhw'n annog llywodraethau i ystyried y dadleuon hynny, ac mae gweinidogion y DU wedi gofyn i swyddogion meddygol asesu a fyddai gwerth brechu oherwydd y rhesymau hynny.

Bydd prif swyddogion meddygol pedair gwlad y DU nawr yn ystyried cyngor y JCVI cyn dod i benderfyniad terfynol.

Ehangu'r nifer sy'n gymwys

Mae plant dros 12 oed sydd â chyflwr meddygol sy'n eu gwneud yn agored i niwed gan coronafeirws eisoes yn gymwys ar gyfer cael brechiad Pfizer/BioNTech.

Ddydd Gwener fe wnaeth y JCVI gynghori y dylid cynnig y brechlyn i blant sydd ag ystod ehangach o gyflyrau hefyd, megis rheiny sydd â diabetes math 1.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er y cyngor i beidio â brechu pob plentyn, mae rhestr y rheiny sy'n gymwys am frechlyn wedi cael ei ehangu

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, rwyf wedi gofyn i fy Mhrif Swyddog Meddygol ddarparu canllawiau cyn gynted â phosibl ar y manteision clinigol a'r manteision iechyd ehangach sy'n gysylltiedig â brechu'r grŵp oedran hwn.

"Ein bwriad, fel ein bwriad ers dechrau'r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a'r dystiolaeth wyddonol.

"Bydd penderfyniadau ar frechu pob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed yn cael eu gwneud ar sail cyngor y Prif Swyddog Meddygol, ynghyd â chyngor a ddarperir gan y cyd-bwyllgor.

"Yn y cyfamser, mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cynllunio ar gyfer unrhyw benderfyniadau pellach a wneir ac yn barod i weithredu arnynt."

Disgrifiad,

Brechu plant dros 12 oed 'yn synhwyrol'

Wrth ymateb i'r dadleuon dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru: "Dwi'm yn meddwl mai mater o fynd yn erbyn y JCVI fyddai ymestyn i bob plentyn ar ôl 12 oed - mae'r JCVI wedi 'neud eu penderfyniad yn seiliedig ar faterion clinigol pur.

"Mae yna faterion ehangach sydd angen eu hystyried hefyd a dyna fydd yn digwydd rŵan - pethau fel yr effaith y mae'r pandemig wedi'i gael ar addysg a lles pobl ifanc ac effaith y mae cylchrediad eang y feirws ymhlith plant a phobl ifanc yn ei gael ar gymdeithas yn ehangach.

"Dwi'n meddwl mai adeiladu ar benderfyniad y JCVI fyddai'r llywodraethau pe bae nhw yn symud ymlaen tuag at frechu ar draws y boblogaeth dros 12 oed - a dwi'n teimlo mai dyna'r peth synhwyrol i'w wneud er nad ydi o'n benderfyniad hawdd iawn."

Dywedodd Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, bod yn rhaid i wleidyddion seilio eu penderfyniad ar gyngor arbenigwyr iechyd sef y JCVI.

Dywedodd bod "yr amharu sy'n digwydd ar addysg pobl ifanc" yn ffactor cryf wrth ystyried unrhyw benderfyniad ac mae'n galw am gyhoeddi y dystiolaeth.

'Tipyn o sioc'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn dywedodd y meddyg Dr Harri Pritchard o Amlwch: "Fel meddyg teulu dwi'n gorfod derbyn barn arbenigwyr a chael ffydd ynddyn nhw - nhw sydd wedi gwneud y gwaith ymchwil a chymryd y dystiolaeth.

"Ond roedd yn dipyn o sioc clywed nad oedden nhw yn argymell brechu'r rhai 12-15 oed. Fel meddyg dwi ddim wedi gweld niwed niweidiol iawn i bobl ifanc sy'n cael covid, yn wahanol i'r rhai hŷn.

"Synnwyr cyffredin ydi hi bod y firws yn lledu llai os oes mwy o bobl wedi cael eu brechu ond be' mae'r JCVI yn ddweud ydi oherwydd effaith ar yr unigolyn maen nhw yn rhoi nhw gynta' a chymdeithas ac effaith ar addysg yn ail.

"Dydi'r penderfyniad ddim wedi ei wneud eto - rŵan mi fydd y swyddogion iechyd yn edrych ar iechyd cyhoeddus a'r ochr wleidyddol os am imiwneiddio.

"Mae 'na fudd i frechu rhai 12-15 ond dydi'r JCVI ddim yn gweld o'n ddigon amlwg i fod werth y risg. Ella o gychwyn 'wan bod hi bach yn hwyr a byddai 'di bod yn well cyn gwyliau'r haf."

Ychwanegodd Dr Pritchard nad yw e'n disgwyl i'r prif swyddogion meddygol fynd yn groes i'r JCVI achos er bod y brechu yn lleihau pobl i fynd yn sâl 'dyw e ddim yn stopio lledu'r firws.

Pynciau cysylltiedig