Diffoddwyr yn delio â thân mawr yn Borth, Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
BorthFfynhonnell y llun, Ieuan Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ofnau bod y fflamau wedi lledaenu i adeiladau eraill gerllaw

Mae 30 o ddiffoddwyr yn delio â thân mewn tŷ yng nghanol pentref Borth yng Ngheredigion .

Y gred yw i'r tân gynnau yng nghefn y tŷ, ac mae yna ofnau bod y fflamau wedi lledaenu i adeiladau eraill gerllaw.

Mae saith injan dân ar y safle yn delio gyda'r digwyddiad a does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi'i anafu.

Mae pobl sy'n byw mewn eiddo cyfagos wedi gorfod gadael eu cartrefi er mwyn bod yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar y gwasanaeth tân ddydd Gwener ei bod hi'n debygol bod nifer o silindrau nwy yn rhan o'r tân.

Ffynhonnell y llun, Ieuan Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw i'r tân gynnau yng nghefn y tŷ

Ffynhonnell y llun, Ieuan Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i'r digwyddiad ar y brif ffordd trwy'r pentref toc wedi 15:30 ddydd Gwener