Medal aur arall i Aled Siôn Davies
- Cyhoeddwyd

Bu Aled Siôn Davies yn cystadlu yn y taflu pwysau F63 fore Sadwrn
Mae'r Cymro Aled Siôn Davies wedi cipio ei drydedd medal aur wedi iddo ennill y gystadleuaeth taflu pwysau F63 yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo ddydd Sadwrn.
Roedd tafliad gorau y gŵr o Ben-y-bont sef 15.33m yn drech na'r cystadleuwyr eraill.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sajad Mohammadian o Iran a daflodd bellter o 14.88m oedd yn ail ac felly'n ennill y fedal arian a Faisal Sorour o Kuwait a gipiodd y fedal efydd wedi iddo daflu pellter o 14.13m.
Cyn cystadlu yn Tokyo dywedodd Davies y byddai ennill ei drydedd fedal aur yn golygu "popeth" iddo.
"Dwi wedi rhoi fy holl fywyd i fod y gorau," meddai. "Fi ond yn dod yma am un lliw."
Aled Siôn Davies yw capten tîm Prydain yn y gemau eleni.
Yn gynharach fe wnaeth Laura Sugar, a gafodd ei haddysg uwchradd yng Nghasnewydd, ennill rownd derfynol y caiacio 200m yn y gemau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021