'Roedd Dad yn ddyn addfwyn a thyner'

  • Cyhoeddwyd
Robert Farley, aged 61, from BarryFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed merch Robert Farley bod ei thad yn "dad, tad-cu a ffrind a oedd yn cael ei garu'n fawr"

Mae teulu dyn o'r Barri a ganfuwyd yn farw yn ei gartref wedi'i ddisgrifio fel dyn "addfwyn, heddychlon a chariadus".

Cafwyd hyd i Robert Farley, 61, mewn eiddo ar stryd West Walk yn ardal Colcot, Y Barri tua 01:00 fore Gwener.

Mae Heddlu'r De wedi arestio dyn 53 oed ar amheuaeth o'i lofruddio.

Dywed merch Mr Farley bod y rhai a oedd yn adnabod ei thad yn cyfeirio ato fel "y dyn tawel".

Dywedodd: "Mae hyn yn cyfleu ei bersonoliaeth yn dda - roedd e'n ddyn addfwyn, heddychlon a chariadus.

"Yn gynharach yn ei fywyd roedd e'n ddyn a oedd yn gweithio'n galed, yn gymdeithasol ac roedd nifer yn hoff iawn ohono.

"Roedd Bobby yn brwydro yn erbyn alcohol ac roedd wedi ceisio goresgyn ei ddibyniaeth droeon gyda chefnogaeth ffrindiau a theulu."

Roedd e'n fab, brawd, tad a thad-cu i dri bachgen.

"Ry'n yn galaru ac yn drist fod tad, tad-cu a ffrind wedi'n gadael cyn pryd," meddai.

Mae plismyn wedi apelio ar i unrhyw un o'r gymuned leol sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig