'Anfoesol' ac 'annoeth' troi eglwys ger mynwent ym Môn yn dŷ

  • Cyhoeddwyd
Rhosybol
Disgrifiad o’r llun,

Mae caniatâd wedi'i roi i droi Eglwys Crist yn dŷ ar yr amod ei fod yn cadw dros fetr i ffwrdd o'r beddi

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cael ei beirniadu am beidio â gwneud mwy i wrthwynebu cais i droi hen eglwys ym Môn yn dŷ, er bod mynwent weithredol yn amgylchynu'r safle.

Mae Eglwys Crist, Rhosybol wedi bod ynghau ers 1996, ond yn gynharach eleni fe roddwyd caniatâd cynllunio i droi'r hen adeilad yn gartref gan y cyngor lleol.

Ond mae trigolion lleol yn dweud y dylai swyddogion yr eglwys - a gafodd ei chodi'n wreiddiol yn 1875 - fod wedi gwneud mwy i wrthwynebu'r cynllun.

Mae 'na fynwent gyhoeddus yn amgylchynu pedair ochr yr eglwys, gyda hawl gan bobl hyd heddiw i gael eu claddu yno.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau fod y fynwent yn "parhau'n lleoliad sanctaidd a ble mae croeso i bobl y gymuned".

'Anfoesol ac annoeth'

Penderfynodd Cyngor Ynys Môn i ganiatáu y cais cynllunio gan ddweud fod y cais yn "cadw pellter o un metr i ffwrdd o feddi'r safle" ac nad oedd "unrhyw reswm i wrthod y cais".

Fe ychwanegodd Cyngor Môn nad oedd gan yr Eglwys yng Nghymru "sylwadau i'w gynnig i'r bwriad" ar adeg y cais.

Ond mae trigolion, rhai sydd â pherthnasau yno hyd heddiw, yn dweud fod y penderfyniad yn "anfoesol ac yn annoeth" ac y dylai'r Eglwys yng Nghymru fod wedi gwneud mwy i'w wrthwynebu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwilym Morris ei fod yn siomedig bod y tŷ wedi derbyn caniatâd cynllunio

Mae gan Gwilym Morris, aelod o gyngor cymuned Rhosybol, wyth aelod o'i deulu wedi eu claddu yn y fynwent, gan gynnwys ei fam, ei dad a'i nain a'i daid.

Mae'n dweud na ddylai'r safle fod yn gartref am resymau moesegol a diogelwch.

"Dwi'n bryderus fod Ynys Môn wedi caniatáu be' maen nhw wedi," meddai.

"Mae 'na bobl fydd eisiau dod yma i gael eu claddu. Mae'r cyngor cymuned wedi gwrthod hwn o'r dechrau.

"Faswn i ddim yn licio meddwl y bydd rhywun yn byw yng nghanol y fynwent yma ac o bosib yn cynnal partïon ganol nos. 'Di o ddim yn beth braf.

"Siomedig 'swn i'n ei ddweud, ac fel'na mae lot o'r gymuned yn teimlo, ond beth allwn ni wneud?"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Will Hughes ei bod yn amhosib gwybod union leoliad pob un o'r beddi ar y safle

Mae 'na bryder hefyd gan aelodau'r gymuned nad yw'r Eglwys yng Nghymru wedi ystyried yn llawn gwerth ac arwyddocâd y tir.

Yn ôl cofnodion y plwyf mae tystiolaeth yn awgrymu fod rhai babanod wedi eu claddu ar y safle heb gerrig beddi.

Mae Will Hughes, sydd hefyd â pherthnasau wedi eu claddu yno, yn poeni fod unigolion yn cael eu hanghofio.

"Dwi'n bryderus - mae 'na lot wedi eu claddu o fewn waliau'r fynwent," meddai.

"Does dim modd dweud yn lle ond os oes 'na rai, yna mae'r plant yna a'u teuluoedd eisiau llonydd.

"Dwi yn siomedig iawn ac yn reit bryderus ar ran trigolion Rhosybol."

'Cwestiynau difrifol i'w hateb'

Tu hwnt i bryderon teuluoedd fel Mr Morris a Mr Hughes mae 'na bryder hefyd am fynediad i'r safle.

Dan y cais cynllunio mae'r eglwys ei hun yn dir preifat ond mae gan y cyhoedd hawl i fynd i'r fynwent drwy ddefnyddio'r un fynedfa.

Ond mae 'na bryder nad yw'r drefn yn gynaliadwy yn ôl y cynghorydd lleol, Aled Morris Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod trigolion wedi'u siomi am ddiffyg gwrthwynebiad yr Eglwys yng Nghymru

"Mae'n fynwent weithredol ac mae gan bobl hawl i ddod yma i gladdu eu perthnasau," meddai.

"Mae 'na siomedigaeth yn yr ardal 'efo'r Eglwys yng Nghymru.

"Mae'r beddi yn amgylchynu'r eglwys a dwi'n meddwl fod gan yr Eglwys yng Nghymru gwestiynau difrifol i'w hateb."

Mae'r Cynghorydd Jones hefyd yn dweud fod yr Eglwys yng Nghymru wedi gwneud penderfyniad "annoeth" wrth feddwl am "barch a llonyddwch" unigolion sydd wedi eu claddu yma.

Beth yw'r ymateb?

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau fod y fynwent yn "parhau'n lleoliad sanctaidd a ble mae croeso i bobl y gymuned".

Ychwanegon nhw fod amodau ynghlwm â'r adeilad a'r tir, ac y byddan nhw yn gweithredu pe bai'r amodau hynny yn cael eu torri.

Dywedodd hefyd eu bod yn "bryderus am yr honiadau a wnaed ers y gwerthiant am feddi anhysbys", a'u bod yn ymchwilio i hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn fod y "cynllun a ganiatawyd yn dangos fod y datblygiad yn cael ei gadw un metr i ffwrdd oddi wrth y beddi".

"Ar adeg delio hefo'r cais cynllunio nid oedd gan yr Eglwys yng Nghymru sylwadau i'w gynnig i'r bwriad," meddai.

"Nid oedd unrhyw reswm i wrthod y cais cynllunio."

Pynciau cysylltiedig