Ad-drefnu etholaethau: Diddymu Arfon a dwy sedd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Gallai Arfon ddiflannu a chwe Aelod Seneddol y gogledd-ddwyrain droi'n bedwar dan gynigion i dorri nifer etholaethau Cymru yn San Steffan.
Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart hefyd yn wynebu brwydr bosib am ei sedd wrth i Orllewin Caerfyrddin a De Penfro droi'n etholaeth newydd.
Nod cynigion Comisiwn Ffiniau Cymru yw gwireddu bwriad Llywodraeth y DU o dorri nifer Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 32 erbyn 2023.
Bydd y cynigion cychwynnol hyn, a gynigwyd yn gyntaf gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn 2012, yn ddechrau ar ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos.
Beth sy'n newid?
Dan reolau newydd San Steffan, bydd yn rhaid i bob etholaeth sy'n cael ei gynnig gan y Comisiwn Ffiniau gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o bleidleiswyr cofrestredig.
Yr unig eithriad i'r rheol honno yng Nghymru fydd Ynys Môn, sydd wedi cael "statws gwarchodedig", sy'n golygu na fydd newidiadau i'w henw na'i ffiniau - er mai dim ond 52,415 o bleidleiswyr fydd yno.
Bydd pob etholaeth arall yng Nghymru yn gweld newidiadau, gyda'r mwyafrif yn newid enw a rhai yn diflannu'n llwyr yn sgil cael eu llyncu gan etholaethau drws nesaf.
Un o'r etholaethau fyddai'n cael ei heffeithio dan y cynlluniau fyddai Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, sedd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart.
Byddai'r etholaeth, sydd â 58,048 pleidleisiwr ar hyn o bryd, yn cael ei hail-lunio i gynnwys rhannau o Breseli Penfro, sedd y Ceidwadwr a chyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, dan enw newydd Canolbarth a De Penfro.
Byddai hefyd yn creu sedd newydd Ceredigion a Gogledd Penfro.
Gallai seddi'r hen Wal Goch yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd gael eu torri, gyda De Clwyd a Dyffryn Clwyd yn diflannu.
Byddai De Clwyd, a enillwyd gan y Ceidwadwyr oddi ar Lafur yn etholiad cyffredinol 2019, yn cael ei rhannu rhwng Alun a Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, ac etholaeth estynedig newydd Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.
Fe fyddai sedd arall a enillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2019, Dyffryn Clwyd, hefyd yn cael ei rhannu rhwng etholaethau Clwyd a Delyn.
Gallai etholaeth Arfon, sydd â 43,215 o bleidleiswyr, gael ei rhannu rhwng Dwyfor Meirionydd - fyddai'n cynnwys Caernarfon - ac Aberconwy - fyddai'n cynnwys Bangor.
Byddai rhan o sedd arall yn y de a enillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2019, Pen-y-bont, yn colli rhan i etholaeth newydd Aberafan Porthcawl, tra'n ennill rhan o etholaeth Ogwr.
'Map newydd yn her'
Mae'r Comisiwn Ffiniau yn dweud ei fod wedi ystyried sawl ffactor wrth ddatblygu'r cynigion, o ddaearyddiaeth i gysylltiadau lleol a hanesyddol, yn ogystal â nifer y pleidleiswyr.
Dywedodd ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru, Shereen Williams, eu bod wedi "gorfod cynnig newidiadau sylweddol oherwydd y gostyngiad yn nifer yr etholaethau yng Nghymru".
Ychwanegodd bod hynny "wedi cyflwyno her benodol wrth i ni geisio datblygu map sy'n cwrdd â'r amodau a nodir yn y Ddeddf (Etholaethau Seneddol), ond sydd hefyd yn cwrdd â disgwyliadau pobl Cymru".
"Rydyn ni'n hyderus bod ein cynigion yn ymgais gyntaf gref i greu map ymarferol o 32 etholaeth i Gymru," meddai.
"Pwrpas ein cynigion cychwynnol fodd bynnag yw dechrau'r sgwrs am sut y bydd y map newydd yn edrych."
Mae Comisiwn Ffiniau Cymru nawr wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos ar y cynigion i'r cyhoedd allu rhoi eu barn ar y ffiniau, er na fydd modd newid y nifer terfynol o etholaethau, sydd wedi ei benderfynu gan y llywodraeth.
Beth mae'r gwrthbleidiau'n ei ddweud?
Y newid mawr yn ôl Liz Saville Roberts o Blaid Cymru yw bod "llais Cymru yn San Steffan yn cael ei golli, ar adeg wrth gwrs pan dydy nifer yr Aelodau Seneddol ddim yn mynd i lawr".
"Mae gyda ni lywodraeth sydd yn ben set ar yrru agenda nhw ei hunain ar draws democratiaeth Cymru, ar draws ein senedd ni, a 'da ni'n mynd i lawr i 32 o aelodau," meddai.
Ychwanegodd bod defnyddio rhywbeth "mor gaeth" â fformwla fathemategol i drefnu etholaethau yn golygu bod "sefyllfaoedd hurt o ran y berthynas naturiol, ddaearyddol ac yn gymunedol rhwng rhai o'n cymunedau ni".
Dywedodd Nia Griffith, AS Llafur, bod torri o 40 i 32 yn "anodd dros ben pan 'dy chi'n gweld ein daearyddiaeth ni, ac y ffaith wrth gwrs bod y wlad yn eithaf mawr am faint o drigolion sydd yma".
"Fi'n credu bod nhw wedi trio dilyn ffiniau sy'n bodoli, ond wrth gwrs bydd rhaid i ni astudio'r manylion, astudio beth fydd y sefyllfa ymhob man ac ymateb. A dwi'n gobeithio bydd y cyhoedd hefyd yn ymateb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020