Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022: Cymru 0-0 Estonia

  • Cyhoeddwyd
Tyler RobertsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth ymosodwr Leeds United, Tyler Roberts, yn agos at sgorio i Gymru yn yr hanner cyntaf

Nid yw gobeithion Cymru o orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn edrych yn addawol ar ôl gêm gyfartal, ddi-sgôr yn erbyn Estonia nos Fercher.

Er gwaethaf awyrgylch bywiog Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau'r gêm, Estonia oedd y tîm ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf wrth i Mattias Kait daro'r traws.

Cafodd Cymru sawl cyfle i sgorio ar ôl yr egwyl, ond cafodd ymdrechion Gareth Bale a Tyler Roberts eu rhwystro gan arbediadau da gan gôl-geidwad ifanc Estonia, Karl Hein.

Mae Cymru bellach naw pwynt i ffwrdd o arweinwyr y grŵp, Gwlad Belg.

Er bod y Cymry wedi chwarae dwy gêm yn llai, mae'n rhaid iddyn nhw nawr ennill yr holl gemau sy'n weddill - yn cynnwys gêm gartref yn erbyn Gwlad Belg - er mwyn gorffen ar frig y grŵp, gan obeithio y bydd eu gwrthwynebwyr yn colli pwyntiau cyn hynny hefyd.

Mae'r gemau ail gyfle bellach yn edrych fel llwybr mwyaf realistig Cymru i'w Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.

Mae gêm gyfartal yn erbyn Estonia yn cadw Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp E, y tu ôl i'r Weriniaeth Tsiec sy'n ail ar wahaniaeth goliau, ond mae Cymru wedi chwarae un gêm yn llai.