Bwrsariaeth newydd Waldo i fyfyrwyr y Gymraeg Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
WWFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Waldo Williams yn 66 oed ar 20 Mai, 1971

Mae teulu'r bardd enwog Waldo Williams yn ariannu bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn un o feirdd amlycaf Cymru, mae'n cael ei gofio am ei lenyddiaeth a'i angerdd tuag at heddychiaeth.

Er iddo ysgrifennu yn y Gymraeg, yn Saesneg y cafodd ei fagu, gan ddysgu Cymraeg ar ôl i'w deulu symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu yn 1911.

Fe fydd bwrsariaeth o £500 ar gael i hyd at ddau fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy'n astudio'r Gymraeg yn y brifysgol.

Dywedodd y brifysgol y byddai'r arian ar gael i "rai sydd newydd ddechrau dysgu'r Gymraeg neu fyfyrwyr y mae'r Gymraeg yn famiaith iddynt".

Fel cydnabyddiaeth o bwysigrwydd heddychiaeth i'r bardd, fe fydd ymgeiswyr yn cael dewis cyflwyno traethawd neu waith creadigol ar lenyddiaeth Waldo neu heddychiaeth.

Wrth gyflwyno'r rhodd, dywedodd perthnasau Waldo: "Fel teulu rydym ni'n falch iawn o fod yn gallu cefnogi myfyrwyr i ymuno ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, a thrwy hynny i ddysgu mwy am y pethau oedd mor agos at galon Waldo."