Cau traphont 'eiconig' Fictoraidd ar gyfer gwaith £30m

  • Cyhoeddwyd
Bermo

Bydd gwaith yn parhau'r penwythnos hwn ar adnewyddu pont reilffordd eiconig yng Ngwynedd.

Bydd traphont Y Bermo, sy'n 150 oed, ar gau i drenau, beiciau a cherddwyr am dri mis o ddydd Sul wrth i gontractwyr adnewyddu dros 1,000 o ddarnau o bren a metel.

Dyma ail gam yr uwchraddiad mwyaf erioed yn hanes y bont.

Dechreuodd y prosiect gwerth £30m yn Hydref 2020, gyda'r cam nesaf hwn yn rhedeg rhwng 12 Medi a 12 Rhagfyr.

Mae'r prosiect wedi'i amseru er mwyn osgoi'r haf prysur, sydd wedi bod yn brysurach nag erioed yn Y Bermo eleni.

Mae'r draphont restredig Gradd II* - a agorwyd gyntaf ym 1867 - yn un o'r prif atyniadau yn yr ardal.

Mae'n 731 metr o hyd ac yn un o'r traphontydd pren hiraf sy'n dal i gael ei defnyddio, ond erbyn hyn mae rhannau o'r bont yn pydru ac yn dadfeilio.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd y bont yn 1867, ac erbyn hyn mae 'na ddarnau o bren sy'n pydru

Er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel bydd y draphont - sy'n croesi aber Afon Mawddach - ar gau yn llwyr, gan gynnwys y llwybr cerdded.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth bws yn ystod y cyfnod rhwng gorsafoedd Pwllheli a Machynlleth, a phob gorsaf rhyngddynt. Bydd gwasanaeth bws ychwanegol hefyd i ddisgyblion ysgolion lleol.

Yn ystod y 1980au oedd y tro diwethaf i waith adnewyddu sylweddol gael ei wneud. Bryd hynny achosodd pla o lyngyr ddifrod helaeth.

Ond nawr mae'r pren meddal a ddefnyddiwyd bryd hynny yn dadfeilio a bydd y contractwyr yn adnewyddu 961 darn o bren gyda phren caled newydd a ddylai bara am ddegawdau.

Y darnau sy'n cael eu hadnewyddu tebyg am debyg yw - 452 prif drawst sy'n cynnal y trac rheilffordd, 226 o bren hydredol, 226 o gorbelau sy'n cynnal y pren hydredol a 57 o ddarnau traws-ben.

Disgrifiad o’r llun,

Gwyntoedd cryf yr aber ydy'r her fwyaf i'r gweithwyr, meddai Steve Richardson

Dywedodd Steve Richardson, Rheolwr Gweithrediadau Contractwyr Alun Griffiths bod y prosiect yn "heriol iawn".

"Rydw i wedi gwneud llawer o strwythurau mawr dros y blynyddoedd, strwythurau rheilffordd hefyd, ac rydw i bob amser yn cymryd llawer o ddiddordeb yn yr hanes," meddai.

Dywed Mr Richardson, er i'r bont gael ei hadeiladu yn Oes Fictoria, nad oes llawer o'r deunyddiau gwreiddiol ar ôl.

"Fe wnaeth rhywun ei disgrifio fel 'Trigger's Broom' [o'r rhaglen gomedi Only Fools and Horses] oherwydd yn y bôn rydych chi wedi bod yn newid darnau fesul tipyn dros y blynyddoedd.

"Ond nid yw'r math hwn o ailwampio mawr wedi digwydd ers blynyddoedd lawer. Yn ôl yn yr 1980au pan wnaethant y gwaith llyngyr oedd y tro olaf iddo gael unrhyw welliannau sylweddol."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid gwneud gwaith sylweddol yn y 1980au i drin llyngyr oedd yn effeithio'r pren

Mae lleoliad y bont yn dod â'i heriau ei hun - nid oherwydd symudiad y llanw ond o achos y potensial am wyntoedd cryf yn yr aber.

Dywedodd Mr Richardson: "Heb amheuaeth y gwynt fydd ein problem fwyaf.

"Mae'r craen ry'n ni'n ei ddefnyddio yn un arbenigol - mae ganddo derfyn uwch na chraeniau normal, ac yn gallu ymdopi mewn hyd at 28mya ond hyd yn oed wedyn rydyn ni'n disgwyl cael ein chwythu allan ar brydiau.

"Mae'n rheswm arall y byddwn ni'n gweithio ddydd a nos ar ddechrau'r ffenestr gan obeithio manteisio ar y tywydd gwell."

Ffynhonnell y llun, Ieuan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hanfodol cadw'r bont mewn cyflwr da oherwydd ei bod yn denu cymaint o ymwelwyr, meddai Alvan Jones

Mae Network Rail yn buddsoddi £30m yn y gwaith o adnewyddu'r draphont a fydd yn cael ei gwblhau ar ôl trydydd cam y gwaith yn Hydref 2022.

Dywedodd Alvan Jones, Rheolwr Gweithrediadau gyda Network Rail: "Mae'n strwythur anhygoel yn dydy, mae'n fendigedig.

"Mae'n eiconig ac yn rhywbeth sy'n denu twristiaid a phobl i'r ardal felly mae'n hanfodol ein bod ni'n ei chadw hi yn y cyflwr gorau posib.

"Da ni wedi cynllunio'r gwaith fel ei fod yn digwydd tu allan i'r tymor gwyliau fel ei fod yn achosi'r disruption lleia' posib i'r cymunedau lleol yn enwedig o ran twristiaeth."

A dywedodd Steve Richardson fod y ffaith bod y draphont yn cau am dri mis wedi denu ymwelwyr yn ddiweddar.

"Mae pobl rydw i wedi siarad â nhw wedi dod yma nawr gan wybod ei bod yn mynd i gau, fel y gallen nhw gerdded ar ei thraws.

"Dwi wedi cerdded drosti llawer iawn o weithiau - dwi'n gwerthfawrogi'r olygfa a'r dirwedd. Mae'n lle gwych."

Pynciau cysylltiedig