Blodau gwyllt, prin ger stadau tai yn achosi ffrae

  • Cyhoeddwyd
Un o'r llecynnau gwyllt yn Ffordd Nant RhuthunFfynhonnell y llun, Ann Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trigolion yn cael eu gorfodi i edrych ar wair hir, marw, meddai'r Cynghorydd Ann Davies

Mae blodau prin yn tyfu ar lecynnau gwyllt ger stadau tai yn Sir Ddinbych - ond nid yw'r dolydd gwyllt at ddant pawb.

Mae 29 o bobl sy'n byw yn Ffordd Nant, Rhuthun, wedi arwyddo deiseb yn cwyno eu bod yn edrych yn flêr ac yn amddifadu'r trigolion o ofod i hamddena.

Ond dywed Cyngor Sir Dinbych bod rhai o'r blodau sy'n tyfu yn y dolydd heb gael eu gweld ers dros 100 mlynedd.

Roedd y mannau gwyllt yn helpu i wella bioamrywiaeth, medden nhw.

'Prydferth'

Mewn adroddiad i bwyllgor craffu'r cyngor, dywedodd swyddogion bod Tegeirian Brych wedi ei gofnodi yn Stryd y Brython, a Thafod y Bytheiad a'r Maglys Eiddiog wedi eu gweld ar ddau safle ym Mhrestatyn.

Nid yw'r Maglys Eiddiog wedi cael ei gofnodi'n swyddogol yng Nghymru o'r blaen, ac mae Tafod y Bytheiad ar rhestr goch y DU o blanhigion dan fygythiad, ac nid yw wedi'i gofnodi ond 18 gwaith yn Sir Ddinbych yn ystod y 116 mlynedd diwethaf.

"I fod yn glir, nid yw blaenoriaethau esthetig yn ffactorau perthnasol wrth fynd ati i ddewis y safleoedd," medd yr adroddiad.

Nid dolydd darluniadol, prydferth, sy'n cynnig llai o fudd i fioamrwyiaeth ac sydd angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd a chostus, oedd y safleoedd dan sylw, meddai.

"Mae ein dolydd blodau gwylltion yn aml yn dal i edrych yn brydferth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Sir Dinbych bod blodau prin fel Tafod y Bytheiad yn tyfu ar un o'r safleoedd

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, a gyflwynodd y ddeiseb i'r cyngor, ei bod yn gefnogol iawn i flodau gwyllt, ond nad oedd yn credu y dylid gadael iddynt dyfu yn agos at gartrefi.

"Mae Nant Close yn stad breswyl hyfryd, mae'r byngalos yn ffurfio cylch o amgylch yr hyn oedd yn arfer bod yn lecyn gwyrdd braf, gyda rhosod yn y canol oedd yn cael eu trin gan y trigolion oedrannus," meddai.

"Mae hynny wedi cael ei dynnu oddi wrthynt rŵan, ynghyd â'r cyfle i fynd am dro bach rownd y llecyn glaswelltog.

"Maent wedi colli'r olygfa tuag at fyngalo y naill a'r llall, neu o ran effaith, y cyfle i edrych allan am ei gilydd."

Llygoden mewn llofft

Ychwanegodd: "Mae eu lles wedi cael ei effeithio. Mae llygoden wedi cnoi ei ffordd i mewn i lofft un o'r trigolion.

"Ni chafwyd ymgynghoriad gyda'r trigolion cyn y plannu, a chefais i ddim gwybod tan yr oedd y cynlluniau mewn lle," meddai.

"[Nid oes] blodyn gwyllt i'w weld o gwbl, dim ond gwair hir, marw, y mae'r trigolion yn cael eu gorfodi i edrych arno."

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Fel awdurdod lleol mae gennym ddyletswydd statudol i wella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ein ecosystemau o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016.

"Nid yw'r safleoedd yma'n cael eu gadael i dyfu'n ddi-reolaeth neu'n rhy drwchus.

"Mae'r safleoedd yn cael eu gadael heb eu torri rhwng Mawrth ac Awst bob blwyddyn, ar wahân i forder bach o amgylch pob safle sy'n cael ei dorri bob pythefnos, pryd y mae casgliad sbwriel hefyd yn cael ei wneud."

Pynciau cysylltiedig