Pwysau Covid ar ysbytai'n 'debygol tan ganol Hydref'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eluned Morgan hefyd yn cydnabod bod penderfyniad "anodd iawn" i'w wneud ar basbortau brechu

Mae disgwyl i bwysau Covid-19 ar ysbytai Cymru barhau tan ganol mis Hydref o leiaf, yn ôl y gweinidog iechyd.

Dywedodd Eluned Morgan fod gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ysbytai a meddygfeydd dan bwysau mawr.

Gofynnodd i bobl beidio â'u defnyddio oni bai bod hynny'n angenrheidiol.

Mae rhai byrddau iechyd eisoes wedi gohirio llawfeddygaeth arferol ac wedi atal rhai ymweliadau yn sgil pwysau cynyddol Covid.

Dywedodd Ms Morgan hefyd fod gan weinidogion Cymru benderfyniad "anodd iawn" i'w wneud dros y dyddiau nesaf ynghylch a ddylid cyflwyno pasbortau brechu Covid-19.

Mae disgwyl penderfyniad erbyn dydd Gwener nesaf ynghylch a fydd y pasbortau'n orfodol er mwyn cael mynediad i rai digwyddiadau yng Nghymru.

Mae pasbortau yn cael eu cyflwyno yn yr Alban o 1 Hydref ond mae'r cynllun wedi'i ddileu yn Lloegr.

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Eluned Morgan: "Mae'n rhaid i ni ystyried llawer o faterion ymarferol a moesegol ynghylch pasbortau brechlyn."

Awgrymodd y gallai orfodi pobl i gael pasbortau ar gyfer clybiau nos, er enghraifft, helpu i yrru mwy o bobl ifanc i gael y brechlyn.

Mae mwy nag un rhan o bump o bobl ifanc 16-39 oed yng Nghymru eto i dderbyn un dos o'r brechlyn.

"Rydyn ni'n gwybod bod cyfraddau [achosion Covid-19] yn anhygoel o uchel ar hyn o bryd ymhlith pobl ifanc ac felly dyna pam rydyn ni'n awyddus iawn i godi'r niferoedd hynny i fyny," meddai Ms Morgan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pasbortau brechu: A fydd Cymru'n dilyn Yr Alban neu Loegr?

Dywedodd y gweinidog fod modelu a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod niferoedd uchel o achosion Covid "yn debygol o barhau... tan ddiwedd mis Medi o leiaf ac yna rydyn ni'n debygol o weld lefelu allan".

Oherwydd yr oedi rhwng pobl yn dal Covid ac o bosib angen triniaeth ysbyty, dywedodd Ms Morgan fod y modelu yn awgrymu y bydd y pwysau ar ysbytai "yn parhau o leiaf tan tua chanol mis Hydref".

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng ngorllewin Cymru wedi gohirio rhywfaint o lawdriniaeth arferol yn ei ysbytai.

Yn y gogledd, mae Betsi Cadwaladr hefyd yn atal llawdriniaethau arferol ac wedi atal y mwyafrif o ymweliadau ag ysbytai, tra bod Cwm Taf Morgannwg yn y de-ddwyrain wedi atal y mwyafrif o ymweliadau cleifion.

Ar ei anterth yn ôl ym mis Ionawr, cadarnhawyd 1,643 o achosion o Covid-19 yn ysbytai Cymru, o gymharu â 441 o achosion yn gynharach yr wythnos hon.

Ond mae cyfanswm y bobl yn ysbytai Cymru oherwydd Covid neu resymau eraill ar ei lefel uchaf ers dechrau'r pandemig.

Dywedodd y gweinidog iechyd fod yna "anawsterau cael pobl allan o'r ysbyty" oherwydd diffyg staff gofal cymdeithasol.

Bai ar Brexit

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn cael cyfarfodydd wythnosol gyda'r cyngor a'r byrddau iechyd i ddelio â sefyllfa "eithaf critigol".

Roedd hi'n beio Brexit, "oherwydd bod gennym ni lawer o weithwyr yn nwyrain Ewrop", a phobl yn symud i weithio yn y sector twristiaeth dros yr haf.

Mae llai na hanner y gweithwyr gofal cymdeithasol yn ennill "cyflog byw go iawn", yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd ym mis Awst 2020.

Roedd talu'r cyflog byw go iawn o £9.50 yr awr i staff gofal cymdeithasol yn ymrwymiad maniffesto allweddol gan Lafur Cymru.

Dywedodd Ms Morgan fod y llywodraeth "yn y broses o weithio gyda'r undebau llafur i wneud yn siŵr pan roddwn y cyflog byw hwnnw bod yr arian mewn gwirionedd yn cyrraedd y bobl ar y rheng flaen".

O ran newid y system gofal cymdeithasol, dywedodd fod gan weinidogion "uchelgais tymor hir" i gyflwyno gofal personol am ddim "ond mae'n mynd i gymryd amser i ni gyrraedd y pwynt hwnnw".