Y GIG dan bwysau a gohirio gwasanaethau'n 'debygol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn rhagweld y bydd angen gohirio mwy o wasanaethau cyn hir

Mae cyfarwyddwr y corff sy'n cynrychioli cyrff a byrddau iechyd yng Nghymru'n dweud bod gohirio rhai gwasanaethau ysbyty'n "edrych yn debygol" wrth i fwy a mwy o gleifion coronafeirws orfod mynd i'r ysbyty.

Daeth rhybudd Conffederasiwn GIG Cymru wrth i fwrdd iechyd y gogledd ohirio rhai llawdriniaethau yn eu prif ysbytai am y tro.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi gohirio rhai llawdriniaethau orthopedig ac mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi atal ymweliadau ysbyty i'r mwyafrif.

Yn ôl Darren Hughes, pennaeth Conffederasiwn GIG Cymru, mae'r GIG dan fwy o bwysau ar hyn o bryd na sy'n codi ar adeg prysuraf y gaeaf.

'Pob opsiwn ar y bwrdd'

Pan ofynnwyd iddo a yw'n anorfod y byddai'n rhaid oedi llawdriniaethau dewisol mewn mwy o rannau o Gymru, atebodd Mr Hughes: "Rwy'n meddwl bod hynny'n edrych yn fwy tebygol.

"Mae pob opsiwn ar y bwrdd. Fe wnawn ni bopeth allwn ni i drin y bobl hynny sydd mewn ysbytai. Bydd pobl sydd angen gofal brys wastad yn cael eu trin.

"Ond i ddelio gyda'r brig enfawr yma o bwysau, y niferoedd cynyddol o bobl gyda Covid sy'n gorfod mynd i'r ysbyty - sydd ddim mor wael ag a fu, gan angen gofal dwys, ond maen nhw'n dal angen triniaeth ysbyty - fe allwn ni orfod edrych ar y ffordd ry'n ni'n darparu gwasanaethau yn y tymor byr oherwydd y pwysau anferthol ar y system ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gohirio rhai llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu yn nhair prif ysbyty'r gogledd

Yr wythnos ddiwethaf bu'n rhaid cau ward yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin oherwydd achosion coronafeirws, ac fe gafodd rhai llawdriniaethau orthopedig eu gohirio i ryddhau capasiti yn Llanelli a Hwlffordd.

Cynnydd yn y nifer sydd angen triniaeth ysbyty yn sgil lledaeniad y feirws o fewn cymunedau arweiniodd at benderfyniad Bwrdd Cwm Taf Morgannwg i atal y mwyafrif o ymweliadau ysbyty yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful am y tro.

Er bod hi'n ddiwedd yr haf ar hyn o bryd, dywed Mr Hughes bod GIG Cymru'n wynebu mwy o bwysau nag y mae fel arfer yn ystod tymor y gaeaf.

"Mae'n deg dweud ein bod eisoes wedi cyrraedd sefyllfa sy'n waeth na'r gaeaf. Mae pethau am waethygu'n gynyddol," meddai.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd wneud popeth posib i ofalu am eu hunain a chadw'n iach."

Gohirio triniaethau yn y gogledd

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Gwener eu bod yn gohirio rhai llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu yn nhair prif ysbyty'r gogledd.

Ychwanegodd eu bod yn delio gyda chlystyrau o achosion Covid mewn pedwar ysbyty - Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Eryri ac Ysbyty Llandudno.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol y bwrdd, Dr Nick Lyons fod y cam yn angenrheidiol yn y tymor byr er mwyn gofalu am gleifion mewn modd diogel yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19.

"Mae'r penderfyniad anodd yma wedi ei wneud i sicrhau ein bod yn gallu darparu capasiti ychwanegol ar ein safleoedd oherwydd nifer y bobl sy'n cael triniaeth Covid-19 yn yr ysbytai," meddai.

Ymddiheurodd am "unrhyw ofid a siom y bydd hyn yn ei achosi" ond pwysleisiodd na gafodd y penderfyniad ei wneud ar chwarae bach.