Dyn mewn cyflwr difrifol wedi 'ymladd' ger traeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cwffio honedig ar lan môr ym Mhorthcawl yn oriau mân fore Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw i Bromenâd y Dwyrain tua 03:15 ar ôl yr hyn maen nhw'n credu oedd dau grŵp o ddynion yn "ymladd" ger Traeth Coney.
Cafodd dyn lleol 33 oed ei gludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd gydag anafiadau i'w ben.
Mae dyn lleol 39 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o gythrwfl (affray) ac mae'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn disgwyl i arestiadau pellach gael eu gwneud a'u bod yn apelio am dystion.
"Yn benodol, hoffem glywed gan unrhyw un a welodd ddau grŵp o ddynion yn ymladd ar Bromenâd y Dwyrain rhwng 02:00 a 03:30," meddai'r Ditectif Arolygydd Jason McGill.