Cyhoeddi carfan gref i ddechrau ymgyrch Cwpan y Byd 2023
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd Hannah Cain o glwb Caerlŷr yn ennill ei chap cyntaf i Gymru fis yma ar ôl penderfynu peidio â chynrychioli Lloegr.
Mae Cain wedi'i chynnwys yng ngharfan gref Gemma Grainger ar gyfer y gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023 yn erbyn Kazakstan ac Estonia.
Fe wnaeth Cain, 22, gynrychioli Cymru dan-17, cyn chwarae i dimau dan-17, dan-19 a dan-21 Lloegr, ond mae hi bellach wedi penderfynu cynrychioli tîm cyntaf Cymru.
Bydd Cymru'n croesawu Kazakhstan i Barc y Scarlets ar 17 Medi cyn teithio i herio Estonia oddi cartref ar 21 Medi - eu gemau cyntaf yn yr ymgyrch i gyrraedd y bencampwriaeth yn Awstralia a Seland Newydd.
Mae Grainger wedi gallu dewis ei charfan gryfaf, gyda dim anafiadau, a modd i ddwy sy'n chwarae yn yr Unol Daleithiau - Jess Fishlock ac Angharad James - ddychwelyd i Gymru ar gyfer y gemau hefyd.
Y gêm yn erbyn Kazakhstan fydd y tro cyntaf i dîm merched Cymru chwarae o flaen torf ers dechrau'r pandemig, a'r tro cyntaf ers penodiad Grainger fel rheolwr.
Bydd modd gwylio holl gemau'r ymgyrch ar wefan ac ap Cymru Fyw, gyda sylwebaeth gan Owain Llyr a Kath Morgan.
Y garfan yn llawn
Laura O'Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry), Poppy Soper (Plymouth Argyle), Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Reading), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Esther Morgan (Tottenham Hotspur), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Charlton Athletic), Angharad James (North Carolina Courage), Josie Green (Tottenham Hotspur), Charlie Estcourt (Coventry United), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Chloe Williams (Manchester United), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Charlton Athletic), Hannah Cain (Caerlŷr), Ceri Holland (Lerpwl), Kayleigh Green (Brighton), Helen Ward (Watford), Elise Hughes (Charlton Athletic), Georgia Walters (Lerpwl).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021