Coed er cof wedi'u dinistrio yn fandaliaeth Parc Bute
- Cyhoeddwyd
Roedd dros hanner y coed a gafodd eu dinistrio gan fandaliaid ym Mharc Bute wedi'u plannu er cof am bobl sydd wedi marw, yn ôl rheolwr y parc.
Cafodd gwerth miloedd o bunnau o ddifrod ei wneud wrth i tua 50 o goed, gan gynnwys rhai rhywogaethau prin, gael eu torri gyda llifiau yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd tanau hefyd eu cynnau, wrth i geblau trydan a'r we gael eu targedu.
Roedd un goeden gafodd ei dinistrio wedi'i phlannu gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn 2019 fel rhan o gynllun Cymru i Affrica - gyda choeden wedi ei phlannu yn Uganda ar yr un pryd.
Mae'r heddlu a rheolwyr y parc yn credu bod y fandaliaeth yn waith sawl person, ond dydy swyddogion dal ddim yn deall beth oedd y rheswm dros ddinistrio'r parc.
Dywedodd rheolwr y parc, Julia Sas, wrth BBC Cymru y bydd hi'n ddegawdau cyn i amrywiaeth y coed gael ei adfer, ac y bydd hi'n amhosib amnewid rhai rhywogaethau yn union.
"Da' ni byth 'di mynd trwy rhywbeth fel hyn," meddai.
"Dydw i methu deall pam y byddai unrhyw un yn ymosod ar barc mewn ffordd mor fwriadol a systematig."
"Mae Parc Bute yn cynrychioli gwarchodfa, lle ma' bobl wedi ymweld yn ystod Covid," dywedodd.
Mae'n rhaid i staff y parc gofnodi'r holl ddifrod a chysylltu â theuluoedd sydd nawr wedi colli cofebion i'w hanwyliaid.
Dywedodd Julia Sas bod yr ymosodiad wedi bod yn drawmatig.
"Rydym yn barc, ni ar agor i bawb ac rydym yn ymddiried mewn pobl i edrych ar ei hôl. Mae'n perthyn i bawb.
"Mae'n ymosodiad mor anwaraidd ond yn un brawychus hefyd," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021