Natalie Jones: "Barod i gwffio dros eraill"
- Cyhoeddwyd
"Mae byw yng Nghymru, yn enwedig yn y gorllewin, yn gallu teimlo'n unig iawn os wyt ti o leiafrif ethnig."
Dyma eiriau Natalie Jones, sydd newydd gwblhau cwrs ymarfer dysgu ac wedi dechrau ar yrfa newydd fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Gynradd Neyland, Sir Benfro.
Yn ystod cyfnod Natalie fel disgybl ysgol, ni welodd erioed athro neu athrawes ddu. Gyda ffigyrau y rhai sy'n cymhwyso fel athrawon o gefndir pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn isel tu hwnt, mae hi'n argyhoeddedig fod rhaid gwneud mwy er mwyn annog pobl o bob cefndir i fynd i'r proffesiwn.
Bu Natalie yn sgwrsio â Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws, ar BBC Radio Cymru, gan esbonio rhai o'r rhesymau dros y newid cyfeiriad hwn yn ei gyrfa hi.
Newid byd
Bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr a'u meibion, mae Natalie wedi troedio sawl llwybr ers ei geni yn Birmingham i rieni Jamaicaidd oedd yn rhan o'r genhedlaeth Windrush. Yn saith oed, priododd ei mam â Chymro a dwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Bwllheli.
Trochwyd Natalie yn y Gymraeg gan fod ei mam yn benderfynol y byddai hithau, ei tair chwaer a'i brawd bach yn rhugl. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng yr iaith: "Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny," meddai Natalie.
Hiliaeth
Nid dim ond diffyg amrywiaeth gweledol oedd yn ei hwynebu yn ifanc, profodd hefyd drosedd casineb fwy nag unwaith yn ystod ei blynyddoedd ysgol. Ond doedd y Natalie ifanc ddim yn gwybod beth oedd hi'n gallu ei wneud am y peth, a bod modd iddi fynd at yr heddlu.
Er nad yw hi'n profi hynny gymaint bellach, mae'n dal i'w wynebu ar adegau: "Jyst dros flwyddyn nôl, ro'n i'n dod allan o'r siop, ac roedd na grŵp o teenagers, a 'nath un ohonyn nhw weiddi'r N word arna i. Dwi ddim yn cael pethau fel 'na yn aml, felly roedd hynny yn sioc i mi.
"Dy' nhw ddim yn deall, mae hynny'n drosedd casineb. Sw'n i 'di gallu mynd at yr heddlu am hwnna."
Dyma un o'r rhesymau pam bod ei gwaith gwirfoddol gyda Chyngor Hil Cymru mor agos at ei chalon, ble mae hi'n mynd o gwmpas ysgolion yn gwneud gweithdai gyda phlant.
Yn ystod y sesiynau yma, mae hi'n rhannu amryw o negeseuon gan dynnu sylw at ble y gall y rhai sydd wedi, neu'n parhau, i brofi hiliaeth ddod o hyd i gymorth: "Mae byw yng Nghymru, yn enwedig yn y gorllewin, yn gallu teimlo'n unig iawn os wyt ti o leiafrif ethnig.
"Ti'n gallu teimlo mor unig, a dyw e ddim yn dda. Dwi wedi cwffio weithiau gyda fy iechyd meddwl, 'di o ddim wedi bod yn hawdd drwy'r adeg. So mae'n bwysig i fod yna i roi cymorth i bobl eraill. Dwi mewn lle da nawr a dwi'n teimlo nawr ei bod hi'n amser i roi yn ôl."
Er i brofiadau fel hyn yn yr ystafell ddosbarth roi boddhad iddi, ni ddaeth yr alwad i fynd i ddysgu yn syth: "Mae wedi cymryd amser i ffeindio fy niche!" meddai gan chwerthin.
Gyrfa amrywiol
Wedi cyfnod hir yn gweithio yn y diwydiant gwerthu, ymunodd Natalie â chwmni oedd yn ymwneud â pheiriannau meddygol.
Arweiniodd y swydd at Natalie yn cwblhau gradd BSc mewn Seicoleg Gymhwysol ochr yn ochr â'i gwaith.
Aeth ei gyrfa â hi ar draws y byd i lefydd fel Fienna, Munich, Boston, Efrog Newydd a Toronto. Roedd pethau'n ddi-stop: "Pan ro'n i'n gweithio i'r cwmni meddygol, dyna'r amser pan roedd fy iechyd meddwl i ar ei waetha'.
"Ella bo' fi wedi rhoi gymaint o bwysau ar fy hun. Ro'n i'n trio gwneud gymaint. Magu plant, job llawn amser, gradd llawn amser...".
Ond daeth tro ar fyd wrth i Natalie a nifer o weithwyr y cwmni gael eu diswyddo. Penderfynodd fynd yn ôl i'r brifysgol i wneud gradd meistr MSc mewn Seicoleg Glinigol. Ond ar ôl cyfnod anodd yn cynnwys profedigaeth yn y teulu, cafodd Natalie ddiagonsis o ganser y fron a hithau newydd gwblhau ei hastudiaethau ôl-raddedig.
"Oedd e'n amser heriol iawn. Dwi'n lwcus iawn, nes i ffeindio'r lwmp yn gynnar iawn a ges i driniaeth bendigedig mewn clinig yn Llanelli".
Y sylweddoliad mawr
Dyma oedd yr alwad i Natalie arafu a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddi a gwawriodd y sylweddoliad mai yn yr ystafell ddosbarth oedd ei chalon.
"Ro'n i yn meddwl fy mod i'n rhy hen," meddai Natalie. "Be' 'di'r pwynt neud gradd nawr?"
Ond mae hi'n fodlon iawn bellach bod amgylchiadau wedi ei gorfodi iddi gymryd risg a gwneud ymarfer dysgu: "Mae rhaid cymryd risg os ti isho bod yn hapus. Os ti jyst yn mynd i eistedd yn ôl a gobeithio bydd pethe'n newid… 'neith nhw ddim.
"Unwaith o'n i wedi dechre, ro'n i'n cymryd risg arall, a chymryd risg arall a theimlo'n falch bo' fi wedi neud o."
Ynghyd â theulu ac amryw o ffrindiau da o bob math o gefndiroedd, un o'r pethau sydd wedi gwneud bywyd yn haws iddi ydy'r penderfyniad i fod yn onest: "Odd gen i ofn rili deud wrth bobl yn blwmp ac yn blaen o'n i'n stryglo, ond nawr, mae angen i ni siarad am y pethau yma, rhoi cymorth i'n gilydd, i helpu'n gilydd.
"Dwi ddim yn embarrassed dim mwy, dwi'n falch bo' fi wedi cael yr help yna. Achos dyw'r help yna ddim yn hawdd i'w gael. Mae'r waiting lists mor hir.
"Mi wnes i dalu fy hun yn breifat hefyd am therapi yn lle aros, ond yn y diwedd, ges i CBT (cognitive behavioural therapy) drwy'r NHS, a dwi yn gwerthfawrogi hynna ac yn ddiolchgar iawn bo' fi wedi cael hynna, achos mae wedi gwneud gwahaniaeth i fy mywyd i, a fy hyder i.
"O'r blaen, doedd gen i ddim llais. Os dwi'n gweld pethau sy'n digwydd nawr, annhegwch, dwi'n fodlon siarad allan. Ond o'r blaen, roedd gymaint yn mynd ymlaen yn fy mhen fy hun, o'n i methu.
"Nawr, dwi mynd i gwffio. Dwi'n gallu cwffio dros bobl eraill."
Mae Natalie'n credu y bydd ei phrofiadau'n golygu y bydd hi'n sensitif tuag at anghenion ei disgyblion. A hithau'n magu ei meibion i fod yn falch o'u cefndir Jamaicaidd a Chymreig, ei phrif ddyhead yw gwneud yn siŵr y bydd pawb sy'n dod o dan ei hadain yn teimlo'n falch o bwy ydyn nhw.
Gwrandewch ar y sgwrs rhwng Natalie a Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws, BBC Radio Cymru.