Nyrs o Lanelwy yw'r cyntaf i gael brechlyn atgyfnerthu
- Cyhoeddwyd
Nyrs o Lanelwy yn Sir Ddinbych yw'r person cyntaf yng Nghymru i gael brechlyn atgyfnerthu yn erbyn Covid-19.
Ddechrau'r wythnos cadarnhaodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, fod Cymru wedi derbyn cyngor y JCVI i gynnig dos atgyfnerthu o frechlyn Covid-19.
Fe fydd pawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen a phobl sydd â chyflyrau iechyd arnynt eisoes - pobl yng ngrwpiau blaenoriaeth un i naw - yn cael cynnig trydydd brechiad.
Wedi iddi gael y brechlyn dywedodd Ewa Syczuk, sy'n nyrs orthopedig yn Llanelwy, ei bod yn hynod o falch.
'Roeddwn i'n sâl iawn'
Mae Ms Syczuk, 50, yn fam i ddau o blant ac wedi bod yn brechu eraill ers Ionawr 2021 wedi iddi hi ei hun gael Covid.
"Dwi mor falch i gael y brechlyn oherwydd ym mis Ebrill y llynedd mi ges i Covid ac mi'r oeddwn i'n sâl iawn iawn. Roeddwn yn meddwl bo' fi'n mynd i farw.
"Mae yna wythnosau dwi'n cofio dim amdanynt - a dywedodd fy mhartner ei fod yn gorfod fy atgoffa i anadlu.
"Fis wedi i fi ddod yn well, roeddwn i ond yn gallu cerdded 500 cam ac yna roeddwn yn treulio gweddill y diwrnod yn gwely.
"Fe gymerodd hi chwe mis cyn i fi allu dychwelyd i'r gwaith yn raddol."
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddechrau rhoi'r brechlynnau atgyfnerthu ddydd Sadwrn, gan ddechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal.
Mae byrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Phowys i gyd wedi cadarnhau y byddant yn dechrau cynnig y brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr cartrefi gofal a staff gofal iechyd o ddydd Llun ymlaen.
Bydd y JCVI yn ystyried brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer oedolion eraill yn ddiweddarach.
Ddechrau'r wythnos hefyd cafwyd cadarnhad y bydd plant rhwng 12 a 15 oed yn cael cynnig brechlyn Covid-19.
Bydd llythyrau sy'n gwahodd pobl 12 i 15 oed i gael un dos o'r brechlyn Pfizer yn dechrau cael eu hanfon at bobl yr wythnos nesaf, a disgwylir y bydd y gwaith o roi'r brechlynnau cyntaf yn dechrau o 4 Hydref ymlaen.
Bydd yr holl frechlynnau atgyfnerthu yn cael eu darparu mewn cartrefi gofal, canolfannau brechu torfol, ysbytai neu feddygfeydd.
Bydd pobl yn cael gwybod lle y byddant yn mynd i gael eu brechu pan fyddant yn cael eu gwahodd.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bod swyddogion wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i roi brechlynnau atgyfnerthu yn "ddiogel ac yn effeithlon".
"Byddwn i'n annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu fanteisio ar y cynnig pan fyddan nhw'n cael eu galw am apwyntiad, gan fod posibilrwydd y bydd imiwnedd o'u dosau cynharach o'r brechlyn yn lleihau wrth i amser fynd heibio.
"Os nad ydych chi wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn eto, 'dyw hi ddim yn rhy hwyr. Rwy'n annog unrhyw un sydd heb fanteisio ar y cynnig eto i wneud hynny."
Dim angen cysylltu
Dywedodd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol gyda chyfrifoldeb dros frechlynnau:
"Heddiw, mae'r dosau cyntaf o'r brechlyn atgyfnerthu wedi'u rhoi i staff gofal iechyd y rheng flaen sy'n gofalu am rai o'n hunigolion mwyaf agored i niwed wrth inni barhau i ddiogelu unigolion rhag y feirws, salwch difrifol a'r risg y bydd raid iddyn nhw gael eu derbyn i'r ysbyty.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld y manteision sy'n deillio o sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl wedi cael eu brechu ac rydyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn drwy gydol yr haf. Brechlynnau yw ein hamddiffyniad cryfaf o hyd rhag y feirws ac i gynnal y lefelau imiwnedd a gyflawnwyd gan bobl."
Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i aros nes eu bod yn cael eu gwahodd i gael eu brechlynnau atgyfnerthu ac i beidio â chysylltu â'r GIG na gwasanaethau iechyd i ofyn am frechlyn atgyfnerthu Covid-19.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021