Cyflwyno 'pasbort Covid' yng Nghymru o fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i bobl dros 18 oed gael 'pasbort brechu' neu ddangos eu bod wedi cael prawf negyddol am Covid er mwyn mynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y mesur wedi'i gyflwyno er mwyn ceisio rheoli lledaeniad coronafeirws.
Bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf er bod nifer yr achosion yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Mr Drakefod hefyd annog pobl i weithio gartref pan fo modd, ac i sicrhau eu bod yn cael eu brechu'n llawn.
Ar ddiwedd y cyfnod adolygu diweddaraf o gyfyngiadau a rheolau Covid, dywedodd hefyd y bydd ymwybyddiaeth o fesurau diogelu Covid allweddol eraill a chamau i'w gorfodi yn cynyddu.
Bydd y mesurau hyn yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
'Camau bach ond ystyrlon'
Dywedodd Mr Drakeford: "Ledled Cymru, mae achosion o'r coronafeirws wedi codi i lefelau uchel iawn dros yr haf wrth i ragor o bobl ddod at ei gilydd a chyfarfod ac, yn drasig, mae rhagor o bobl yn marw o'r feirws ofnadwy hwn.
"Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw rhagor o gyfyngiadau symud a busnesau yn gorfod cau eu drysau eto.
"Dyna pam mae rhaid inni gymryd camau bach ond ystyrlon yn awr i reoli lledaeniad y feirws a lleihau'r angen am fesurau llymach yn nes ymlaen."
Fe fydd y gofyniad i ddangos Pàs COVID y GIG i rym ar 11 Hydref.
O hynny ymlaen, bydd angen i bobl dros 18 oed gael y 'pasbort brechu' i fynd i'r canlynol:
Clybiau nos;
Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau;
Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;
Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy'n cynnwys mwy na 10,000 o bobl.
Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu.
Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.
'Manylion i ddieithryn'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dwedodd y Democratiaid Rhyddfrydol nad dyma oedd y ffordd i daclo'r pandemig ar hyn o bryd.
Dywedodd eu harweinydd yng Nghymru, Jane Dodds: "Rwy'n deall fod pobl am ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd, ond nid pasbortau brechu yw'r ffordd i wneud hyn a rhaid i ni fod yn ofalus am y cynsail sy'n cael ei osod.
"Maen nhw'n gerdiau adnabod meddygol mewn pob dim ond enw... am y tro cyntaf mae'n golygu y bydd gofyn i chi ddarparu data meddygol preifat i ddieithryn er mwyn gallu mwynhau rhai pethau mewn cymdeithas, ond ni fydd yn lleihau graddfa trosglwyddo'r haint.
"Brechiadau, yn sicr, yw ein ffordd allan o'r pandemig, nid pasbortau brechu."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Rwy'n amheus iawn am eu defnydd, yn enwedig wrth i ni edrych ar yr amserlen y mae'r prif weinidog wedi amlinellu.
"O fodelau'r llywodraeth ei hun, mae 11 Hydref rai wythnos wedi brig y drydedd don. Ni wnaeth y prif weinidog gyfeirio o gwbl at yr effaith ar y GIG o bobl yn cael Covid mewn ysbytai - sy'n rhan fawr o'r cleifion sydd mewn ysbyty - a'r broblem o lawdriniaethau'n cael eu gohirio gan sawl bwrdd iechyd ar draws Cymru."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae elfennau o'r cynllun pas Covid yma yn fy nrysu: mae'n targedu grwpiau mwy o bobl - ry'n ni'n sôn am gemau pêl-droed, nid dim ond clybiau nos, felly mae problemau gyda gweithredu'r cynllun yn sicr."
'Hawliau sifil'
Yn y gynhadledd newyddion ddydd Gwener, ychwanegodd Mr Drakeford: "Rwyf finnau a'r cabinet yn ymwybodol iawn o'r goblygiadau ar hawliau sifil o bopeth yr ydym yn gwneud.
"Does neb am ymyrryd gyda hawliau pobl, heblaw i'r graddau sydd angen i atal cyfyngiadau eraill ar fywydau pobl.
"Mae gan ddioddefwyr Covid-19 hawliau hefyd, a rhan o'u hawliau nhw yw cael byw mewn cymdeithas sy'n cymryd mesurau rhesymol i gadw'n gilydd yn ddiogel."
Dywedodd cymdeithas y Night Time Industries Association ei bod "yn siomedig" gyda'r penderfyniad.
"Rydyn ni'n dal i deimlo y bydd y mesurau yma'n cael effaith negyddol ar fusnesau, ac yn cael effaith sylweddol ar y sector", meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Medi 2021